Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Yr allwedd i sicrhau llwyddiant yn y brifddinas-ranbarth yw dilyn dull aml-ganolfan ar gyfer seilwaith a datblygu economaidd. Er mai nod y cytundeb dinas a'r model dinas-ranbarth yw adeiladu ar frand rhyngwladol Caerdydd, mae’n rhaid i ni gydnabod swyddogaeth y canolfannau poblogaeth eraill hefyd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi, wrth symud ymlaen, y dylid cadarnhau statws amlwg Casnewydd fel prifddinas ranbarthol yn ei rhinwedd ei hun, prifddinas hen sir Gwent, ac a yw'n cytuno y dylai’r statws amlwg hwn gael ei ymgorffori wrth gynllunio’r prifddinas-ranbarth ac y dylid ei hyrwyddo ar bob cyfle?