Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Weinidog. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan eich Llywodraeth yn datgelu mai cynghorau Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Thorfaen sydd â'r cyfraddau gwaethaf yng Nghymru o ran casglu'r dreth gyngor. Mae'r ganolfan cyngor ar bopeth wedi labelu treth gyngor fel problem ddyled fwyaf Cymru—mae 6,000 o bobl yn cael trafferth i dalu eu biliau erbyn hyn. A wnaiff y Prif Weinidog esbonio i'r teuluoedd hynny yn ardaloedd tlotaf Cymru pam y penderfynodd beidio â defnyddio'r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i rewi'r dreth gyngor yng Nghymru at y diben y’i bwriadwyd mewn gwirionedd?