<p>Cyfraddau Casglu’r Dreth Gyngor </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae datganoli'n golygu nad yw at ddiben a fwriadwyd, i ddechrau; mater i'r Cynulliad yw penderfynu sut y mae'n gwario ei arian. Serch hynny, gwrthodwyd y grant rhewi'r dreth gyngor gan fwyafrif yr awdurdodau yn Lloegr eleni, gan ddewis codi’r dreth gyngor yn hytrach. Er gwaethaf y ffaith honno, mae'r dreth gyngor yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yw hi yn Lloegr, ac, yn wir, bydd ef yn cofio, gan ei fod yn y Siambr pan ddatganolwyd budd-daliadau treth gyngor, mai dim ond 90 y cant o'r gyllideb a ddilynodd. Welais i mohono yn annog yn gryf ar y pryd y dylai Cymru dderbyn ei chyfran lawn o arian er mwyn ymdrin â budd-daliadau'r dreth gyngor.