<p>Cyfraddau Casglu’r Dreth Gyngor </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:16, 12 Gorffennaf 2016

Mae’n rhaid bod y ffaith bod y ganran fwyaf o bobl sydd ddim yn talu’r dreth ymhlith rhai o’n hardaloedd tlotaf yn adlewyrchu’r ffaith bod y dreth yma’n sylfaenol annheg, yntefe? Mae’r baich yn pwyso’n drymach ar y bobl sy’n lleiaf abl i dalu. Felly, onid yw hi’n bryd, nawr, inni fwrw ati i ddiwygio’r dreth yma i’w gwneud yn decach, fel yr oedd Plaid Cymru wedi dadlau, wrth gwrs, yn yr etholiad yn ôl ym mis Mai?