<p>Cyfraddau Casglu’r Dreth Gyngor </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 12 Gorffennaf 2016

Rŷm ni’n wastad yn agored i ystyried ffyrdd newydd o gyllido awdurdodau lleol. Mae rhai yn sôn, wrth gwrs, am dreth incwm lleol; bydd yn rhaid casglu hynny’n lleol yn lle bod yr arian i gyd yn mynd i’r llefydd y mae pobl yn gweithio, nid lle maen nhw’n byw. Mae’n wir i ddweud—wel, nid yw’n wir i bawb, wrth gwrs—y mwyaf yw pris y tŷ, y mwyaf yw incwm y person sydd yn byw yno. Nid yw hynny’n wastad yn wir, rwy’n deall hynny, ond mae’r system sydd gennym ni ar hyn o bryd yn system sydd yn gweithio achos y ffaith ei bod yn dreth sydd wedi cael ei rhoi ar ben tŷ sydd ffaelu symud. Ond, wrth gwrs, yn y blynyddoedd i ddod, mae yna’n wastad ddadl ynglŷn ag a oes yna ffordd fwy effeithiol i sicrhau cyllid awdurdodau lleol.