4. 3. Datganiad: Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:52, 12 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Roeddwn i wedi gobeithio bod yma heddiw â chopi ffres o'r rhaglen lywodraethu yn fy llaw. Fodd bynnag, nid yw’n amser gwneud hynny eto gan fod canlyniad y refferendwm Brexit wedi newid pethau’n sylfaenol. Rydym yn wynebu llawer o gwestiynau am y dyfodol ac, yn syml, nid oes gennym yr atebion iddynt. Bydd Brexit yn cael effaith sylweddol iawn ar ein cyllidebau a'n rhaglenni ni. Bydd hyn yn effeithio’n fawr ar ein partneriaid yn y sector addysg uwch, y sector preifat a'r trydydd sector wrth iddynt fapio eu dyfodol. Rydym ni i gyd yn disgwyl am arwydd difrifol o safbwynt negodi Llywodraeth y DU tuag at Brexit ac, yn hollbwysig, am gadarnhad gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr UE.

Ni fyddai dim byd yn gwneud mwy i ddwysáu’r ymdeimlad hwnnw o bellter rhwng pobl a'r Llywodraethau sydd yma i'w gwasanaethu na fi’n gwneud addewidion heddiw yr wyf yn gwybod y gallai fod yn anodd i’r Llywodraeth eu cadw. Felly, rwy’n gohirio cyhoeddi ein rhaglen lywodraethu tan fis Medi; erbyn hynny, rydym yn gobeithio y bydd gennym syniad mwy pendant i seilio unrhyw asesiad realistig o'n sefyllfa ariannol arno.

Lywydd, mae cymaint wedi newid ers etholiadau’r Cynulliad hwn ym mis Mai. I lawer ohonom, mae wedi teimlo ar adegau fel pe baem yn byw mewn bydysawd cyfochrog. Mae'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn enfawr ac, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae goblygiadau’r bleidlais i’r byd go iawn yn dal i fod yn bell iawn o fod yn glir—yn ariannol, yn gymdeithasol, ac o ran lle Cymru yn y byd. Fel Llywodraeth, rydym yn gwbl benderfynol i gael y fargen orau bosibl i Gymru o'r broses o'n blaen. Mae llawer iawn o waith eisoes ar y gweill i osod sylfeini cadarn ar gyfer cyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Rwy'n falch o'r ffordd yr ydym wedi dod drwy lymder dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi gwneud cymaint ag y gallem i ddiogelu’r gwasanaethau y mae pobl wir yn dibynnu arnynt rhag y gwaethaf o’r storm ariannol sydd wedi ein hamgylchynu. Ond mae dyfroedd garw o’n blaenau o hyd o ran ein cyllid.

Eisoes mae rhai arwyddion economaidd sy’n peri pryder yn deillio o bleidlais yr UE a allai gael sgil effaith ddifrifol ar gyllid cyhoeddus, ac er gwaethaf addewidion cadarn ymgyrchwyr 'gadael', nid oes gennym ddim sicrwydd o hyd gan Lywodraeth y DU y bydd y £600 miliwn y flwyddyn a gawn mewn cyllid yr UE yn parhau i lifo i Gymru ar ôl i’r DU ymadael—a rhaid imi ddweud wrthych yn onest iawn, heb y sicrwydd hwn, rydym yn wynebu twll mawr iawn yn ein cyllidebau yn y dyfodol. Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto heddiw i roi'r sicrwydd sydd ei angen arnom ar gyfer pob ceiniog o’r cyllid hwnnw, a fyddai'n rhoi darlun llawer cliriach inni o'r hyn y bydd rhaid inni ei gyflawni o ran yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ym mis Mai. Mae'n amser gwireddu’r addewidion hynny.

Lywydd, ers y bleidlais y mis diwethaf, mae Ysgrifennydd yr economi a mi wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr i roi cymaint o sicrwydd iddynt ag y gallwn. Rydym wedi bod yn gwrando'n astud ar eu pryderon. Mae’r hyn yr ydym yn ei ofyn iddynt yn glir: peidiwch â digalonni, daliwch i fuddsoddi, cofiwch yr holl bethau sy'n gwneud Cymru’n lle gwych i gynnal busnes a daliwch i siarad â ni. Er gwaethaf yr amgylchiadau, rydym yn clywed llawer o negeseuon cadarnhaol, ac rydym yn gobeithio gallu gwneud rhai cyhoeddiadau newydd sylweddol yn fuan iawn. Hoffwn anfon neges gadarnhaol debyg yn ôl heddiw yn seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan fusnesau yn yr wythnosau diwethaf.

Rydym yn gwybod bod seilwaith yn hanfodol o ran penderfyniadau buddsoddi, ac felly, er gwaethaf yr ansicrwydd ynghylch yr elfen sylweddol o arian yr UE, rwy'n cadarnhau heddiw y byddwn yn bwrw ymlaen â datblygiad y prosiect metro, sydd â chymaint o botensial trawsnewidiol. Efallai na fydd ar yr un ffurf yn union ag o'r blaen. Bydd yn rhaid inni edrych ar fodelau cyllido amgen ac efallai y gwnaiff gymryd mwy o amser i gyrraedd y man lle hoffem ni fod, ond rwy'n credu bod hwn yn arwydd pwysig i gyflogwyr bod Cymru’n dal ar agor i fusnes, yn awyddus i symud ymlaen ac mai dim ond gwella a wnaiff ein cynnig i fuddsoddwyr. Bydd fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd yr economi, yn dweud mwy am hyn yn nes ymlaen.

Felly, oes, mae ansicrwydd, ond byddwn yn parhau i arwain ac yn gwrthod digalonni. Roedd Chris Coleman yn enghraifft wych i ni i gyd pan soniodd am feiddio breuddwydio a pheidio ag ofni’r dyfodol. Byddaf i a’r Llywodraeth hon—a phawb yn y Siambr hon, rwy’n yn amau—yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wireddu ein huchelgais o gyflawni dros Gymru.

Rwy’n dymuno edrych ymlaen at weddill y Cynulliad hwn a nodi'r mesurau cadarnhaol yr ydym yn benderfynol o’u rhoi ar waith dros y pum mlynedd nesaf. Mae pobl Cymru wedi ethol y Llywodraeth hon i wneud gwelliannau gwirioneddol i’w bywydau ac rydym yn mynd i gyflawni hynny. Cawsom ein hethol ar raglen uchelgeisiol â blaenoriaethau clir iawn: darparu mwy o swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach; gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus; a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Mae Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn lle amrywiol a chymhleth, ond mae disgwyliadau pobl yn syml: bywydau iach, addysg dda, swyddi da, cymunedau cryf a seilwaith sy'n diwallu ein hanghenion. Fel gwlad fechan, mae gennym gryfderau a chyfleoedd nad oes gan lawer o rai eraill. Mae gennym y cyfle i adeiladu ymagwedd tîm cryf ac uno ein rhaglenni i atgyfnerthu’r hyn y mae pobl a chymunedau’n ei wneud drostynt eu hunain, ac adeiladu ar hynny.

Mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn alwad i'r gad. Ni all wneud ein penderfyniadau drosom ni, ond gall ein helpu ni i gydweithio i adeiladu’r Gymru a garem. Rwy’n sicr nad ydym yn ysgogi gwelliant drwy gyhoeddi strategaethau. Rydym yn ysgogi gwelliant trwy weithredu a thrwy arweinyddiaeth gref. Byddaf yn gweithio gyda fy Ngweinidogion dros yr hydref i ddatblygu pedwar polisi trawsbynciol a fydd yn gosod y fframwaith ar gyfer sut yr ydym yn cyflawni ein blaenoriaethau: Cymru ddiogel a llewyrchus; Cymru iach a gweithgar; Cymru uchelgeisiol sy’n dysgu; a Chymru unedig a chysylltiedig. Ni all unrhyw un Gweinidog gyflawni’r blaenoriaethau hynny, ac rwy’n gosod her i ni a'n partneriaid o gydweithio i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o sicrhau newid ym mhob un o'r meysydd hyn ar gyfer pobl Cymru. Byddwn yn gweithio drwy gydol yr hydref i ystyried sut y gallwn gael yr effaith fwyaf a sut y gallwn lapio gwasanaethau o gwmpas pobl ar yr adegau, ac yn y mannau, lle mae eu hangen arnynt.

Lywydd, fel rhan o'n cytundeb i symud Cymru ymlaen gyda Phlaid Cymru, rydym eisoes wedi nodi ein blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer 100 diwrnod cyntaf y tymor. Er bod y canfed diwrnod yn dod ar ddiwedd mis Awst, rydym wedi bwrw ati ar unwaith ac mae llawer o waith wedi’i wneud. Rydym yn datblygu cynlluniau ym mhob un o'r meysydd hynny y soniais amdanynt ym mis Mai a hefyd ar gyfer y meysydd hynny lle ceir tir cyffredin gyda Phlaid Cymru. Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth eisoes wedi gwneud datganiad am y newidiadau ar unwaith i brentisiaethau er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i 100,000 o brentisiaethau i brentisiaid o bob oed. Bydd y rhain yn sicrhau nad yw oedran yn cyfyngu ar gyfleoedd a’u bod ar gael yn eang.

Rydym wedi gwneud datganiad am ein blaenoriaethau deddfwriaethol, gan ganolbwyntio eto ar y meysydd hynny sy'n cael cefnogaeth eang ar draws y Siambr hon, a pheidio â defnyddio deddfwriaeth oni bai ei bod yn glir mai dyna’r ffordd orau o sicrhau newid. Mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ynglŷn â sefydlu adolygiad i ddyfodol tymor hir y GIG yng Nghymru. Rydym wedi sefydlu tri phwyllgor cyswllt ar gyfer cyfansoddiad, cyllid a deddfwriaeth. Mae pob un o'r pwyllgorau hyn wedi cyfarfod ac eisoes maent yn dangos gwirionedd fy ymrwymiad i weithio’n agored gyda phobl eraill, gan gydnabod dymuniadau pobl Cymru.

Lywydd, y prynhawn yma, bydd yr Ysgrifennydd iechyd yn gwneud datganiadau pellach am y cynlluniau ar gyfer cronfa driniaeth newydd a fydd yn cael gwared ar amrywiaeth o ran mynediad at gyffuriau arloesol, newydd, drud. Bydd yr Ysgrifennydd addysg yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer gwasanaeth addysg sy’n hunan-wella y prynhawn yma, a fydd yn cynnwys ein hymrwymiad i gynyddu buddsoddiad mewn ysgolion. Mae'r cynlluniau hyn yn dangos sut y byddwn yn sicrhau bod iechyd, swyddi ac ysgolion yn ganolog i’n cynlluniau ar gyfer y Llywodraeth, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau am yr ymrwymiadau eraill maes o law. Rydym hefyd, wrth gwrs, yn bwrw ymlaen â’r rhaglen y cytunwyd arni gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol, a oedd yn cynnwys gwneud Kirsty Williams yn Ysgrifenydd addysg. Bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaethau y byddwn yn eu datblygu dros yr hydref. Mae pob un o'r blaenoriaethau hyn yn arwydd clir fel crisial bod hon yn Llywodraeth sy’n agored i'r syniadau gorau yng Nghymru, o ble bynnag y dônt, os gallant wneud cyfraniad go iawn at ein nodau.

Lywydd, rwyf wedi ei gwneud yn glir fy mod yn dymuno i'r Llywodraeth hon, a'r Cynulliad hwn, fod yn wahanol. Roedd ethol cadeiryddion pwyllgorau’n symudiad cyflym a chalonogol at fod yn agored, a hoffwn inni barhau yn yr ysbryd hwn. Mae hon yn Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i weithio ar y cyd a gweithio’n arloesol fel yr unig ffordd o fodloni dyheadau pobl Cymru. Gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru sy'n fwy hyderus, yn fwy cyfartal, yn fwy medrus ac yn fwy cydnerth. Fel gwlad, rydym wedi anelu’n uchel ac yn awr rydym yn barod i wneud mwy. Hoffwn weld Cymru sy'n ffyniannus ac yn ddiogel, yn iach ac yn weithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig. Dyma’r Gymru yr ydym yn benderfynol o’i chreu dros y pum mlynedd nesaf.