Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Weinidog, diolch am eich datganiad. Roedd hwn yn achos hollol erchyll, sydd wedi peri sioc i bawb, rwy’n meddwl, yn y Siambr hon, ac, yn wir, ledled Cymru. Pan fydd pobl yn clywed, yng Nghymru gyfoes, bod bachgen ifanc, wyth oed, wedi marw o ganlyniad i’r sgyrfi—cyflwr yr oedd pawb yma’n gobeithio ei fod wedi’i daflu i fin sbwriel hanes—rwy’n meddwl y dylem ni i gyd deimlo cywilydd bod y bachgen hwn wedi gallu mynd i gyflwr mor frawychus. Pan fyddwch chi’n meddwl am sut y mae rhywun yn marw o’r sgyrfi—y boen, y gwaedu, y niwed i feinweoedd meddal, yr anghysur ofnadwy y mae’n rhaid bod y bachgen hwn wedi ei wynebu tua diwedd ei oes—mae wir yn gwbl warthus. Rwyf wedi darllen yr adroddiad. Mae'n adroddiad brawychus sy’n cyfeirio at y ffaith na chafodd gwahanol asiantaethau gyfle i weld Dylan gartref oherwydd diffyg cydweithrediad ei rieni, a’r tad yn arbennig. Rwy'n meddwl ei bod yn werth ystyried hyn yn ehangach, a dweud y gwir, o ran ymateb Llywodraeth gyfan, ac ymateb awdurdodau lleol Cymru a’n gwasanaethau addysg ac iechyd hefyd. Felly, rwy’n falch, Weinidog, eich bod yn cymryd amser i wneud hynny'n iawn yn hytrach na rhuthro i mewn i benderfyniadau, ac nad ydych chi’n gwneud hynny’n annibynnol ar eich cydweithwyr eraill yn y Cabinet, ond ar y cyd â nhw.
Rwy’n meddwl ei bod yn deg rhoi cyfle i’r canllawiau a’r fframwaith statudol newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar setlo, oherwydd rwy’n meddwl eu bod yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr angen am ddull amlasiantaeth yn y mathau hyn o sefyllfaoedd yn y dyfodol. Gobeithio y bydd hynny'n cau rhai o'r tyllau yn y rhwyd y bu Dylan ifanc yn ddigon anffodus i syrthio drwyddynt. Roeddwn yn falch, Weinidog, o’ch clywed yn cyfeirio at ymateb 'meddwl am y teulu' fel os oes anghenion yn ymddangos o ganlyniad i iechyd y fam yn yr achos penodol hwn, bod yr effaith ehangach ar y teulu—ar y gŵr, ar Dylan ac, wrth gwrs, ar ei frawd neu chwaer, nad yw wedi cael ei grybwyll yn y Siambr heddiw—yn cael ei hystyried yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, pe bai’r pethau hynny wedi cael eu hystyried yn ehangach, mae'n berffaith bosibl, nid yn unig y byddai chwilfrydedd wedi’i ennyn ymhlith y gweithwyr gofal proffesiynol hynny, ond y gallent fod wedi cymryd camau a allai fod wedi arwain at achub Dylan rhag y sefyllfa fregus hon yr aeth iddi.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn meddwl bod penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio ag eisiau erlyn yn yr achos penodol hwn yn warthus. Rwyf wedi edrych ar y rhesymau a roddwyd ganddynt, a oedd i gyd yn ymwneud ag iechyd a lles y rhieni, mae'n ymddangos i mi-nid â’r diffyg tystiolaeth o esgeulustod troseddol, ond i gyd â lles y rhieni. A dweud y gwir, o ystyried bod yr un unigolion hynny wedi mynd ymlaen i gychwyn achos llys yn erbyn cyn-gyflogwr mam Dylan ac wedi gallu herio hwnnw, byddwn wedi awgrymu bod eu hiechyd mewn cyflwr perffaith resymol i allu mynd â nhw drwy’r llysoedd. Rwy'n meddwl bod angen i ni wneud esiampl o’r achos hwn. Dyma’r union fathau o achosion y dylid eu dilyn er budd y cyhoedd, nid eu gollwng na’u gwthio o'r neilltu. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech chi ddweud wrthym ba drafodaethau yr ydych chi fel Gweinidog, a’r Llywodraeth yn ehangach, yn eu cael gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn gweld a allant ailagor yr achos hwn, o ystyried y dystiolaeth ychwanegol sydd, wrth gwrs, wedi cael ei dwyn at sylw pawb erbyn hyn yn sgil adroddiad yr adolygiad ymarfer plant.
Tybed hefyd, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym a allech chi ystyried caniatáu rhyw fath o fynediad statudol at blant i gael y brechiadau hynny ac ar gyfer ymweliadau iechyd, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar hynny a blynyddoedd ysgol gynradd. Mae pawb yn gwybod bod ymweliadau gan nyrs yr ysgol neu nyrs gymuned yn nodwedd reolaidd o fywyd ysgol y dyddiau yma. Ond, yn ddigon amlwg, pe bai Dylan wedi cael gweld ymarferydd iechyd, mae'n gwbl bosibl y gallai ei gyflwr fod wedi cael ei ganfod, ac mae'n ddigon posibl y byddai wedi cael ei nodi fel unigolyn agored i niwed. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf wedi fy argyhoeddi ein bod ni wir angen cofrestr ar gyfer y plant hynny sy'n cael addysg gartref. Mae'n ddigon eglur o'r adroddiad nad yw addysg gartref ynddi ei hun yn ffactor risg i unigolion. Ond rwy’n meddwl, pe bai mynediad ychwanegol at y plant hynny yn cael ei gyflwyno mewn ffyrdd eraill, drwy’r system iechyd efallai, y byddai hwnnw'n llwybr llawer gwell, rwy’n meddwl, sy'n diogelu hawliau'r plentyn yr ydym ni i gyd wedi deddfu arnynt yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, gan gynnwys yr hawl i iechyd, ffordd iach o fyw a gwasanaethau iechyd.
Hefyd, Weinidog, tybed pa gymorth y gallai’r Llywodraeth fod yn ei chynnig i rieni nad ydynt, efallai, yn gallu magu eu plant mewn ffordd y mae cymdeithas yn teimlo sy’n addas. Gwn fod y Llywodraeth wedi cefnogi rhaglenni magu plant cadarnhaol, ond sut allwn ni sicrhau eu bod yn cynnwys y bobl sydd, efallai, ar gyrion cymdeithas a chymunedau nad ydynt yn dymuno cymryd rhan? A oes unrhyw orfodaeth, efallai, y gellir ei defnyddio lle gallai fod unigolion fel hyn yn y mathau hyn o sefyllfaoedd?
I gloi, o ran hawliau’r plentyn y Cenhedloedd Unedig, rydym ni oll wedi dweud yn y Siambr hon yr hoffem ni sicrhau bod yr hawliau hynny’n ganolog i'r ymagwedd a fabwysiadir at wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, ac fel y gwyddoch, fel Ysgrifennydd Cabinet, rhoddir y dyletswyddau hynny arnoch chi fel Ysgrifennydd Cabinet i ystyried yr hawliau hynny ym mhob cam yr ydych chi’n ei gymryd. Ond, nid yw'r egwyddor sylw dyledus yn cael ei chymhwyso i awdurdodau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy’n meddwl tybed, Weinidog, a fyddwch chi’n barod i ystyried, ar y cyd â'ch cydweithwyr yn y Cabinet, adolygiad o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a basiwyd gennym yn ystod y trydydd Cynulliad i weld a oes lle i ymestyn y rhwymedigaethau sylw dyledus hynny i awdurdodau lleol ac, yn wir, i’r holl wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Oherwydd rwy’n meddwl, pe bai’r hawliau hynny wedi cael eu hystyried yn eglur iawn, ac mae hyn yn dod allan o'r adroddiad—yr hawl i wasanaeth iechyd, yr hawl i addysg briodol—mae'n berffaith bosibl unwaith eto byddai unigolion wedi cael mynediad at Dylan mewn ffordd wahanol, a dull arall o gael mynediad at Dylan mewn ffordd wahanol, a allai fod wedi canfod ei sefyllfa’n gynt ac efallai achub bywyd ifanc iawn a gafodd ei diffodd yn gwbl ddiangen o ganlyniad i glefyd sy’n ddigon hawdd ei atal.