Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ein maniffesto, gwnaethom ymrwymiad i wella’r gwaith o gyflwyno triniaethau arloesol drwy sefydlu cronfa triniaethau newydd yng Nghymru. Roeddem hefyd yn cytuno â Phlaid Cymru, yn rhan o'r compact i symud Cymru ymlaen, y dylid cynnal adolygiad annibynnol o'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, a adwaenir hefyd fel IPFR.
Yng Nghymru, rydym yn falch o weithredu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gyflwyno meddyginiaethau newydd yn y GIG. Mae triniaethau newydd yn cael eu darganfod, eu trwyddedu a’u cymeradwyo i'w defnyddio yn y GIG yn fisol bron, gan ddod â’r posibilrwydd o wellhad neu ansawdd bywyd gwell i bobl â chyflyrau gydol oes neu gyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae rhai o'r meddyginiaethau newydd hyn yn gostus iawn i’r GIG, gan roi cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau bod ein hadnoddau yn cael eu buddsoddi lle mae prawf o’r manteision i gleifion yn cydbwyso â’r gost. Byddwn yn parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i benderfynu pa driniaethau ddylai fod ar gael fel mater o drefn yn GIG Cymru.
Rydym yn dibynnu ar y cyngor arbenigol ac awdurdodol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a adwaenir hefyd fel NICE, a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, a adwaenir hefyd fel AWMSG. Mae'r ddau gorff hyn yn cynnal gwerthusiadau cadarn o feddyginiaethau trwyddedig newydd trwy asesu’r dystiolaeth o’r effeithiolrwydd clinigol i gleifion yn erbyn y gost a godir ar y GIG gan y gwneuthurwr.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi yn ein rhaglen ein hunain o werthuso meddyginiaethau er mwyn sicrhau y gall Cymru benderfynu pa feddyginiaethau newydd ddylai fod ar gael yn y GIG cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn sicrhau bod y cleifion yn cael y meddyginiaethau newydd mwyaf effeithiol yn glinigol a’r mwyaf cost effeithiol.
Ers i'r AWMSG gael ei sefydlu yn 2002, mae wedi darparu cyngor ar 286 o feddyginiaethau newydd, gan argymell 84 y cant ar gyfer eu defnyddio yn GIG Cymru. Yn 2015-16, cafodd 45 o'r 47 meddyginiaeth a arfarnwyd eu cymeradwyo i'w defnyddio yng Nghymru. Er mwyn gwella’r tebygolrwydd o arfarniad cadarnhaol, cyflwynwyd cynllun mynediad cleifion Cymru yn 2012 i annog y diwydiant fferyllol i gynnig prisiau ar gyfer meddyginiaethau newydd sy’n cydbwyso’n well â'u manteision clinigol. Mae hyn wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer meddyginiaethau newydd i fod ar gael fel mater o drefn yng Nghymru. Hyd yma, sicrhawyd bod 21 o feddyginiaethau newydd ar gael gan ddefnyddio’r cynllun hwn.
Bydd y gronfa triniaethau newydd yn cefnogi cyflwyniad cynnar y meddyginiaethau cost uchel mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd wedi eu hargymell gan NICE neu AWMSG. Bydd £80 miliwn ar gael yn ystod oes y Llywodraeth hon i sicrhau bod meddyginiaethau newydd ar gael sy'n mynd i'r afael ag anghenion clinigol sydd heb eu diwallu, ac sy’n gam sylweddol ymlaen ar gyfer trin clefydau sy'n bygwth bywyd a chlefydau sy'n cyfyngu ar fywyd. Bydd hyn yn cael ei ddarparu yn gyson ar draws Cymru cyn gynted ag y bo modd yn dilyn argymhelliad cadarnhaol gan naill ai NICE neu AWMSG. Bydd y gronfa triniaethau newydd yn talu cost y meddyginiaethau newydd hyn am uchafswm o 12 mis, gan roi amser i fyrddau iechyd gynllunio a blaenoriaethu cyllid o’u cyllidebau.
Mae'r gronfa wedi datblygu o'n profiad ni o sicrhau bod triniaethau cost uchel newydd ar gael i bobl Cymru ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau sy'n newid bywyd. Yr haf diwethaf, er enghraifft, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid sylweddol o'i chronfeydd canolog i alluogi'r GIG i ariannu pedair triniaeth newydd ar gyfer hepatitis C a thriniaeth newydd ar gyfer clefyd genetig a phrin sy’n gwaethygu’n raddol o'r enw aHUS. Mae'r meddyginiaethau hyn yn gam mawr ymlaen o ran trin cleifion ac wedi sicrhau manteision iechyd a chymdeithasol sylweddol i gleifion.
Mae'n hanfodol bod y gronfa triniaethau newydd yn cael ei gweithredu yn dryloyw ac yn cael ei deall yn eang. Yn ystod yr haf, byddwn yn mireinio'r meini prawf a'r mecanweithiau sydd eu hangen i reoli'r gronfa yn effeithiol, ac rwy’n rhagweld y bydd y gronfa yn weithredol erbyn mis Rhagfyr. Yn bwysicaf oll, bydd yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad cyflymach at driniaethau sy’n newid ac yn achub bywyd lle bynnag y maent yn byw.
Lle nad yw meddyginiaeth neu driniaeth wedi cael ei gwerthuso neu ei chymeradwyo i'w defnyddio yn GIG Cymru, gall clinigydd wneud cais, ar ran ei gleifion, iddi fod ar gael drwy'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, a adwaenir yn gyffredin fel IPFR.
Mae'n iawn bod gennym broses yng Nghymru i alluogi mynediad at driniaethau a dyfeisiau nad ydynt ar gael fel arfer drwy'r GIG. Mae gan bob gwasanaeth iechyd yn y DU broses o'r fath, gyda meini prawf clinigol i bennu pa una fyddant ar gael ai peidio. Mae proses IPFR GIG Cymru wedi ei gwella yn dilyn adolygiad yn 2013-14. Cynhelir adolygiad pellach yn awr i sicrhau gwell cysondeb o ran penderfyniadau ledled Cymru ac i wneud argymhellion ynghylch pa feini prawf clinigol y dylid eu cymhwyso wrth benderfynu pwy sy'n gymwys.
Rwyf wedi trafod y cwmpas ar gyfer adolygiad annibynnol o'r broses IPFR gyda llefarwyr iechyd o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Cynulliad Cenedlaethol, a hoffwn ddiolch iddynt am y ffordd adeiladol ac aeddfed y cynhaliwyd y trafodaethau hynny. Ceir cytundeb cyffredinol bod y panel adolygu i dynnu ar arbenigedd a phrofiad y system yng Nghymru ac i ddod â safbwynt newydd o'r tu allan i Gymru. Bydd safbwynt y claf hefyd yn elfen hanfodol o'r adolygiad. Bydd yr adolygiad yn ystyried yn benodol y meini prawf eithriadoldeb clinigol a'r posibilrwydd o un panel IPFR cenedlaethol.
Rwyf yn dymuno gweld adolygiad byr sy’n canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â'r materion hyn, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r Aelodau ym mis Medi. Byddwn yn parhau i wneud y broses werthuso yn rhan ganolog o’r dull ni o ymdrin â meddyginiaethau yng Nghymru, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod pobl yn cael mynediad at driniaeth effeithiol ar gyfer eu salwch neu glefyd.
Bydd y gronfa triniaethau newydd yn cefnogi'r dull hwn trwy ddarparu mynediad cynnar i feddyginiaethau cost uchel, arloesol, sy'n cynnig dewisiadau triniaeth newydd i bobl sydd â chyflyrau gydol oes a chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu'r broses IPFR er mwyn sicrhau ei bod yn deg ac yn gyson ledled Cymru. Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at driniaeth gyfartal lle bynnag y maent yn byw.