Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad. Rwy’n cael fy nghalonogi, mewn gwirionedd, gan lawer o'r hyn yr wyf wedi’i glywed, yn enwedig o ran eich gweledigaeth ar gyfer mwy o ffederasiynau ysgolion ac, yn ôl pob tebyg, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig, ond mewn ardaloedd trefol hefyd. Rwy’n credu bod hynny yn gyfle i athrawon ddatblygu arbenigeddau sy'n fwy cyffrous iddynt wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd proffesiynol, ac yn rhoi cyfleoedd ychwanegol iddynt ymestyn a datblygu’r arbenigeddau hynny. Gallai hynny, wrth gwrs, gynnwys arbenigedd yn yr iaith Gymraeg, y gellir wedyn ei rannu ar draws ysgolion, ac enghreifftiau eraill o arfer da hefyd.
Wrth gwrs, mae'n rhoi cyfle i sicrhau rhai arbedion maint ar draws nifer o safleoedd gyda chostau gweinyddol o bosibl yn cael eu rhannu, a hefyd mae’n cynyddu capasiti’r ysgolion unigol hynny, pan fyddant yn gweithio ar y cyd, i allu darparu gwasanaethau drostynt eu hunain, yn hytrach nag o bosibl cael eu gorfodi i gael mynediad atynt drwy'r awdurdodau lleol, sydd, wrth gwrs, yn wir yn achos gormod o ysgolion ar hyn o bryd.
Un peth na wnaethoch chi sôn amdano, fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, oedd y cyfleoedd a allai fod yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i ysgolion ar gyfer pob oedran, sydd, wrth gwrs, yn nodwedd sy'n tyfu yn y maes addysg yng Nghymru a hefyd yn rhoi cyfleoedd i leihau'r pellteroedd sy’n cael eu teithio, yn enwedig i ysgolion uwchradd mewn ardaloedd gwledig. Tybed a fydd eich polisïau gwledig, wrth iddynt barhau i ddatblygu a dod i'r amlwg, yn ystyried yr angen i gefnogi datblygiad mwy o ysgolion ar gyfer pob oedran.
Rwy'n falch iawn hefyd o’ch clywed yn cyfeirio at adolygiad o'r polisi lleoedd gwag, yr ydym wedi’i gael yng Nghymru ers peth amser. Mae hynny wedi arwain at gau nifer o ysgolion yn fy etholaeth i. Gellid bod wedi osgoi rhai ohonynt, rwy’n credu, pe byddai polisi gwell ar hynny—felly, rwy’n meddwl, unwaith eto, bod hwn yn rhywbeth i’w groesawu yn fawr iawn.
Gwrandewais â diddordeb ar eich cyfeiriadau at sefydlu academi arweinyddiaeth Cymru ac, yn hollol, mae'r cyfan yn ymwneud ag arweinyddiaeth yn ein hysgolion, ac mae'n rhaid i ni gael yr arweinwyr o’r ansawdd gorau posibl fel penaethiaid yn gyffredinol. Ond rwy’n meddwl tybed beth fydd yr amserlen ar gyfer sefydlu’r academi a hefyd a fydd yn cael ei glymu i leoliad penodol yng Nghymru neu a yw'n rhywbeth y bydd pobl yn gallu cymryd rhan ynddo ym mhob rhanbarth o Gymru. Yn amlwg, fe wyddoch, mae heriau, dyweder, o ran cael mynediad at rai o'r rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd, ac rwy’n meddwl fod gwneud yn siŵr bod cyfle i gael mynediad—p’un a ydych chi'n dod o’r gogledd, o’r de, o’r gorllewin neu o’r canolbarth—yn bwysig iawn, iawn yn wir.
Rydych hefyd braidd yn amwys yn eich disgrifiad o sut yr ydych yn mynd i gyrraedd eich polisi o leihau maint dosbarthiadau i 25. Mae’n ymddangos eich bod yn cyfeirio yn fwy at gymarebau disgybl i athro, neu gymarebau disgyblion i staff, yn hytrach na phenolau ar seddi yn y stafelloedd dosbarth, ac rwy’n meddwl tybed a allwch chi ddweud wrthym yn glir iawn beth yw eich nod o ran hynny. Ai ymwneud â chymarebau staff y mae - nid yr argraff, rwy’n credu, a gafodd llawer ohonom pan gyhoeddwyd y polisi hwn yn rhan o'ch cytundeb clymblaid gyda'r Blaid Lafur, neu a yw'n mynd i fod am y penolau hynny ar seddau, sef yr argraff a gafodd bob un ohonom? Hefyd, o ran maint y dosbarthiadau, os yw'n ymwneud â phenolau ar seddau, beth mae hynny'n ei wneud i hyfywedd rhai o'n hysgolion llai, yn benodol, y mae angen capasiti ychwanegol arnynt, fel petai, er mwyn sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol o fewn yr ysgolion hynny er mwyn gallu eu cadw ar agor?
Roeddwn yn falch, hefyd, o glywed y cyfeiriad at y grant amddifadedd disgyblion yn parhau. Nid ydych wedi dweud yn union ar ba lefel y bydd yn parhau, p’un a fydd ar y lefel gyllido bresennol, p’un a fydd hynny’n cynyddu, neu a allai fod yn cael ei ymestyn ymhellach—efallai y gallwch roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am hynny. A yw'n mynd i fod yr un fath â'r llynedd? A ydych yn disgwyl mwy o arian? Does gen i ddim syniad ac rwyf am roi'r cyfle i chi i ymateb.
Rwy'n falch o weld y cyfeiriadau at fwy o ffocws ar yr iaith Gymraeg ac, wrth gwrs, anghenion addysgol arbennig. Ond rwyf wedi dychryn braidd eich bod am weld cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd lle’r cydlynwyr anghenion addysgol arbennig. Gallai hynny, wrth gwrs, olygu bod y disgyblion mwy galluog a thalentog yn ein hysgolion ar eu colled, oherwydd, wrth gwrs, mae rôl y cydlynwyr anghenion addysgol arbennig ar hyn o bryd yn cynnwys darparu ar gyfer y plant mwy galluog a thalentog yn ogystal â’r plant hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Tybed, Weinidog, a allech chi ddweud wrthym sut y gallai’r cyfleoedd hynny i blant mwy galluog a thalentog fod yn rhan o'ch agenda chi.
Ac yn olaf, nid oedd unrhyw gyfeiriad at blant sy'n derbyn gofal yn eich datganiad. Mae pawb yn y Siambr hon, rwy’n gwybod, yn rhannu ymrwymiad i fod eisiau gwella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a gwella eu cyrhaeddiad mewn ysgolion yng Nghymru. Tybed, Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym eto sut yr ydych yn disgwyl i blant sy'n derbyn gofal fod yn rhan o hyn, ac a oes mwy o le o bosibl i ragor o drafodaethau rhwng ein pleidiau ac eraill yn y Siambr hon i ddatblygu agenda sy'n arwain at well deilliannau ar eu cyfer nhw.