Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch yn fawr i chi, Lywydd. Mae’n bleser gen i gael y cyfle yma heddiw i wneud datganiad am fy nghynlluniau a fy mlaenoriaethau ar gyfer maes polisi’r Gymraeg dros y flwyddyn i ddod.
Fel rhywun sydd yn wastad wedi ymgyrchu dros nifer o flynyddoedd am ddyfodol llewyrchus i’r Gymraeg, mae’n anrhydedd cael arwain ar y portffolio iaith ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n ffodus hefyd i gael cymryd yr awenau ar adeg gyffrous yn hanes yr iaith. Mae yna heriau o’n blaenau ni, ond gallwn ni hefyd wynebu’r heriau hynny gan wybod bod gennym ni gonglfeini cadarn yn eu lle.
Felly, wrth inni ystyried beth yw'r camau nesaf i’r Llywodraeth, mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu'r hyn sydd wedi cael ei wneud hyd yma. Mae’n amserol hefyd nodi ein diolch i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r tîm cenedlaethol am roi Cymru a’r Gymraeg ar y map gyda’u llwyddiant ysgubol ym mhencampwriaeth Ewro 2016. Mae gweld cwmnïau mawr rhyngwladol a’r cyfryngau Prydeinig yn defnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd cyfathrebu yn hwb mawr i hyder pob un ohonom ni, fel cenedl ddwyieithog. Byddwn yn edrych ar ffyrdd i fanteisio ar y diddordeb newydd yma yn y Gymraeg dros y misoedd nesaf.
Ein tasg yn awr yw gosod uchelgais o’r newydd sy’n adeiladau ar y seiliau sydd gennym ni ac yn cymryd camau mawr ymlaen. Mae ein maniffesto ni’n gosod uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ni fydd hynny’n dasg hawdd, ond credaf ei bod yn bwysig i ni hoelio ein meddyliau ar yr hyn rydym ni’n ceisio ei wneud. Mae’n gyfrifoldeb arnom ni fel Llywodraeth i osod cyfeiriad ond mae hefyd yn hanfodol i ni i gyd fel cenedl gyfan berchnogi’r her.
Felly, un o’r pethau cyntaf rwy’n bwriadu ei wneud eleni fel Gweinidog yw cynnal sgwrs neu drafodaeth genedlaethol ar ein gweledigaeth hirdymor ni. Daw strategaeth bum-mlynedd bresennol y Llywodraeth i ben ddiwedd mis Mawrth nesaf, felly rwy’n edrych ymlaen at gynnal trafodaeth eang dros y misoedd nesaf ym mhob un rhan o’n gwlad. Fy mwriad i yw cyhoeddi dogfen ymgynghori yn yr Eisteddfod yn ystod yr wythnosau nesaf.
Wrth edrych tuag at y dyfodol, rhaid inni hefyd ganolbwyntio ar y presennol. Rwy’n ymrwymo i barhau i gyflwyno rheoliadau safonau pellach i sectorau eraill sy’n dod o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 dros y flwyddyn nesaf. Rwyf hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw yn rhoi diweddariad ar safonau’r Gymraeg.
Yn ei ddatganiad ar ddechrau’r Cynulliad hwn, dywedodd y Prif Weinidog y bydd y Llywodraeth yn ceisio diwygio Mesur y Gymraeg. Cafodd y Mesur ei basio ar adeg pan oedd y setliad datganoli yn wahanol, felly mae’n amserol i ni adolygu’r Mesur a bydd y gwaith yn cychwyn yn ystod y flwyddyn yma. Mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i nodi manylion beth fydd yn y Bil newydd, ond rwy’n awyddus i edrych eto ar y Mesur er mwyn sicrhau fod y sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol yn addas, yn gyfredol a hefyd yn sicrhau bod y broses o wneud a gosod safonau yn llai biwrocrataidd.
Rwyf hefyd yn awyddus i ailedrych ar y broses o gynllunio addysg Gymraeg. Mae fy swyddogion i eisoes wedi bod yn trafod gydag awdurdodau lleol er mwyn datblygu canllawiau ar baratoi cynlluniau strategol newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Y nod fydd sicrhau bod y cynlluniau yn arwain at weithredu pendant a chyflym mewn modd sy’n arwain at dwf mawr mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Rwyf hefyd yn ymrwymo i weithredu’r blaenoriaethau ar gyfer addysg Gymraeg a gyhoeddwyd mewn datganiad ym mis Mawrth eleni. Mae gwaith hefyd wedi cychwyn ar ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru a fydd yn cynnwys un continwwm o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Mae gan rieni rôl allweddol i’w chwarae yn natblygiadau ieithyddol y genhedlaeth nesaf o Gymry. Cychwynnodd rhaglen Cymraeg i Blant ym mis Ebrill eleni er mwyn annog a chefnogi rhieni a darpar rieni i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u plant. Byddwn yn sicrhau bod rhieni yn derbyn gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg ar adegau allweddol drwy’r daith o fagu plentyn.
Rwy’n edrych ymlaen at weld y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cychwyn yn swyddogol ym mis Awst. Yr wythnos diwethaf, bues i yng nghynhadledd tiwtoriaid Cymraeg i oedolion, ac mae’n amlwg i mi fod yna ymroddiad gan y sector i symud ymlaen a bod yn rhan o gynllun eang o greu siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus.
Yn ogystal â sicrhau bod strwythurau addas yn eu lle ar gyfer cynllunio addysg, mae’n hanfodol hefyd ein bod ni’n cefnogi ein hadnodd pwysicaf, sef ein pobl ni—y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru. Mae angen i ni barhau i gefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd ymarferol, creadigol a hwyliog. Roedd yn fraint gen i agor canolfan Gymraeg newydd Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yr wythnos diwethaf. Bydd Tŷ’r Gwrhyd yn ofod gwych i ddod â siaradwyr Cymraeg o bob oed at ei gilydd i’w defnyddio yn gymdeithasol.
Lywydd, mae prosiectau sy’n targedu defnydd iaith plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Yn y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i ddatblygu rhaglen siarter iaith ar draws Cymru sydd â’r nod o gefnogi ac annog defnydd anffurfiol o’r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc. Byddwn hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc a busnesau i danlinellu pwysigrwydd y Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle. Ond, yn fwy na dim, rydym am i’r Gymraeg fod yn rhywbeth sy’n gyfredol ac yn berthnasol i’r genhedlaeth ifanc—mae defnyddio cyd-destun fel cerddoriaeth, technoleg neu chwaraeon i godi proffil a balchder yn yr iaith yn rhywbeth a fydd yn parhau yn ganolog i’r gwaith hybu.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn ni hefyd yn cydweithio â’n partneriaid i helpu’r sector breifat i ymgorffori mwy o ddwyieithrwydd yn eu gwasanaethau a busnesau. Fel rydw i eisoes wedi sôn, mae cyffro’r pêl-droed wedi agor drws o ran profi gwerth y Gymraeg wrth farchnata, felly mae hwn yn gyfle euraidd i ni fanteisio arno fe.
Lywydd, dyna fy mlaenoriaethau i ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rwy’n hyderus bod yna gefnogaeth ar draws y Siambr i sicrhau dyfodol cadarn i’r Gymraeg ac i sicrhau ein bod ni i gyd yn ymrwymo i gymryd penderfyniadau yn y lle hwn a fydd yn gyson â chyrraedd yr ymrwymiad hwnnw. Diolch yn fawr.