9. 8. Datganiad: Y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 12 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:15, 12 Gorffennaf 2016

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg yn nod i’w groesawu ac rwy’n falch eich gweld chi’n cadarnhau hyn eto heddiw. Er hynny, nid yw’r Llywodraeth eto wedi egluro sut mae’n bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o ychydig dros 0.5 miliwn yn 2011 i 1 filiwn erbyn 2050. Rwy’n gweld y byddwch chi’n cyhoeddi fod yna ymgynghoriad i fod, eto fyth, ar strategaeth newydd ac yn cymryd y bydd hwnnw yn cynnwys sut i gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae angen strategaeth, ond, yn bwysicach, mae angen cynllun gweithredu i fynd efo hwnnw. Rydym ni angen rŵan gweld ewyllys wleidyddol gryf a chadarn gan y Llywodraeth cyn iddi fynd yn rhy hwyr ar yr iaith Gymraeg.

Ni chyflawnwyd nodau blaenorol Llywodraeth Cymru o 5 y cant o gynnydd mewn siaradwyr Cymraeg rhwng cyfrifiadau 2001 a 2011 ac ni lwyddwyd i amddiffyn y nifer o gymunedau lle y mae dros 70 y cant yn siarad Cymraeg. Yn wir, gwelwyd cwymp o 2 y cant yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn 2011 a chwymp yn nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant yn siarad Cymraeg. Mae angen eglurder ar sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod uchelgeisiol y tro yma. Yn bersonol, rwy’n meddwl ein bod ni wedi cael hen ddigon o ymgynghori. Rydym ni wedi cael un ymgynghoriad ar ôl y llall—sgwrs a gafwyd gan y Prif Weinidog, a beth sydd wedi dod yn sgil y sgwrs honno? Bydd pawb yn cofio’r Gynhadledd Fawr. Wel, nid ydw i ond yn gobeithio y bydd eich sgwrs chi yn arwain at weithredu y tro yma.

Rwy’n troi at nifer o’r materion eraill. Y safonau: diolch am y datganiad ysgrifenedig. Nid oes sôn am osod safonau ar gwmnïau telegyfathrebu—ffonau symudol ac yn y blaen. A ydych chi’n bwriadu gwneud hyn? Dyna ydy un o fy nghwestiynau cyntaf i. Yn y Cynulliad diwethaf, gwelwyd nifer o doriadau i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg a byddai rhagor o doriadau yn ei gwneud hi’n anodd iawn i’r comisiynydd gyflawni ei chyfrifoldebau ynghylch y safonau. A ydych chi’n cytuno fod hyn yn bryder?

Addysg yw un o’r meysydd pwysicaf o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar gyfer y dyfodol ac rydw i’n falch o’ch gweld chi yn cydnabod yr angen am un continwwm o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae’n ymddangos felly eich bod chi, o’r diwedd, am weithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies, a gafodd eu gwneud yn wreiddiol dair blynedd yn ôl bellach, ac mae’n biti ein bod ni wedi colli gymaint o amser efo hyn. A ydych chi felly’n cytuno fod yr ymgynghoriad presennol gan Cymwysterau Cymru ynglŷn â chadw TGAU Cymraeg ail iaith yn ddibwrpas, ac y dylid ystyried dod â’r ymgynghoriad yna i ben ac yn hytrach symud i ddatblygu un cymhwyster cyn 2018?

Rydych chi’n sôn yn eich datganiad am weithredu’r blaenoriaethau ar gyfer addysg Gymraeg a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni ac mi wnaeth y Prif Weinidog ddweud yn y datganiad hwnnw fod

‘Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod ei bod yn siomedig nad ydym wedi cyrraedd holl dargedau 2015 yn y Strategaeth.’

Ac wedyn mae o’n mynd ymlaen i ddweud:

‘mae’n bwysig cofio bod modelau gwahanol o ddarpariaeth yn bodoli yng Nghymru a bod cyrraedd targedau “cenedlaethol” yn dibynnu ar berfformiad awdurdodau lleol a darparwyr.’

Felly, pa gamau fyddwch chi’n eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn mesur ac yn mynd i’r afael â’r galw am addysg Gymraeg ac yn cyfrannu at y targedau cenedlaethol?

A ydych chi’n cytuno fod angen datblygu marchnad llafur Cymraeg i ddarparu gwasanaethau, er enghraifft gwasanaethau addysg, iechyd a gofal yn y Gymraeg? Nid ydw i’n gweld cyfeiriad at hyn ond, yn fy marn i, mae hyn yn gam gweithredu hollbwysig ac mae angen eglurder ar bwy sy’n mynd i arwain ar y gwaith yma.

Rydych chi’n sôn hefyd am sicrhau bod rhieni yn derbyn gwybodaeth am fanteision addysg Gymraeg ar adegau allweddol drwy’r daith o fagu plentyn. A ydych chi’n cytuno fod angen sicrhau bod rhagor o blant ifanc yn cael y cyfle i dderbyn gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn sicrhau bod targedau cenedlaethol addysg Gymraeg yn cael eu cyrraedd? A, gan eich bod chi yn sôn heddiw am bwysigrwydd Cymraeg i oedolion, a fedrwch chi ymrwymo i beidio â thorri cyllideb ar ei gyfer?

Rydych chi’n sôn yn eich datganiad am gydweithio efo partneriaid i helpu’r sector breifat i ymgorffori mwy o ddwyieithrwydd yn eu gwasanaethau. A fyddwch chi’n gweithredu, felly, eich addewidion maniffesto i sefydlu cronfa defnydd o’r Gymraeg, a gwadd busnesau i fuddsoddi yn y Gymraeg?

Ac, yn olaf, rwy’n gweld nad ydych yn sôn am y cysylltiad hollbwysig rhwng yr iaith a’r economi. Mae cydnabod pwysigrwydd cynnal economi gref yn y cymunedau a’r ardaloedd Cymraeg yn hanfodol, rwy’n credu, ond rwyf yn gobeithio y byddwch chi’n medru ymhelaethu ar hyn maes o law. Felly, diolch am y datganiad. Rydw i’n edrych ymlaen i weithio efo chi ar gynllun gweithredu cadarn ac effeithiol, ac amserlen glir er mwyn diogelu a chryfhau’r Gymraeg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhaid cyflymu: yn wir, mae’n rhaid i ni garlamu ymlaen yn ddiymdroi cyn ei bod hi’n rhy hwyr i’r iaith Gymraeg.