Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 12 Gorffennaf 2016.
Diolch i chi a diolch am eich sylwadau. Rwy’n amlwg yn fodlon ystyried y materion y mae’r Aelod wedi’u codi. Rwyf i, fel Aelod, hefyd yn deall bod yna broses apelio yn erbyn penderfyniadau’r comisiynydd ac mae tribiwnlys y Gymraeg wedi’i sefydlu er mwyn gwrando ar unrhyw apêl yn erbyn y safonau. Os nad yw’r broses sydd gennym ni yn glir, mi fydd gan Aelodau—pob un Aelod—y cyfle i gynnig newidiadau pan fyddwn yn dod i drafod diwygio’r Mesur. Rwy’n hollol sicr yn fy meddwl i fy mod i eisiau gweld unrhyw fath o Fil newydd yn adlewyrchu’r strategaeth a’r weledigaeth sydd gyda ni.
Rwyf eisiau i’r weledigaeth ar gyfer y Gymraeg ddod yn gyntaf. Dyna pam rwy’n mynnu siarad â phobl ar draws y wlad yn gyntaf; siarad â phobl, rhannu profiadau, rhannu syniadau, rhannu gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith—iaith pob un ohonom ni—ac ar sail hynny gosod y strategaeth, ac ar sail y strategaeth dod i ddeddfu. Nid wyf eisiau dod i ddeddfu yn syth achos rwyf eisiau i’r profiad o’r drafodaeth rydym yn mynd i’w chael ar draws Cymru gyfoethogi’r fath o drafodaeth rydym yn ei chael fan hyn, ac wedyn ein bod yn deddfu pan fyddwn yn gwybod yn union sut rydym eisiau diwygio’r Mesur a ble rydym eisiau cyrraedd trwy ddeddfwriaeth yn y pen draw. Yn amlwg, byddaf yn hapus iawn i gael y drafodaeth ar y pryd.
A gaf i ddod yn ôl at un o’r prif bynciau roedd Suzy Davies wedi codi, sef y sefyllfa yn y byd addysg? Mae fy swyddogion i yn siarad ar hyn o bryd gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru ynglŷn â’r cynlluniau addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n glir yn fy meddwl i fy mod eisiau gweld cynlluniau sy’n mynd i arwain at dwf mawr yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac rwyf eisiau gweld sut y mae awdurdodau lleol yn mynd i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf. Pan fyddaf yn dod i edrych ar y cynlluniau, mi fyddaf yn edrych arnyn nhw ac yn edrych ar sut maent yn cynyddu nifer y plant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna sut byddaf yn edrych arnynt, a gobeithio yn cytuno ar y cynlluniau gydag awdurdodau lleol, achos trwy roi cyfle i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mi fyddwn ni yn helpu creu mwy o siaradwyr Cymraeg yn y dyfodol, a thrwy wneud hynny rwy’n meddwl ein bod ni eisiau hybu’r iaith, a hybu’r iaith nid jest gyda’r busnesau bach y mae’r Aelod wedi’u trafod, ond hefyd pob un rhan o’r gymdeithas a’r gymuned. Rwyf ein heisiau ni fel cymuned a chymdeithas genedlaethol benderfynu ein bod ni eisiau gweld ein gwlad ni yn ddwyieithog, ac nid yw hynny yn fater i wleidyddion yn unig.