QNR – Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2016.
Mae’r diwydiannau digidol yn un o’r rhannau mwyaf bywiog o’n heconomi. Bydd prentisiaethau digidol yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesaf ddechrau ar eu gyrfa yn y maes hwn. O fis Medi 2016 ymlaen, bydd fframwaith cymhwysedd digidol ar gael, a bydd hwn yn cael ei gynnwys fel thema drawsgwricwlaidd.
Os llwyddir i sicrhau morlyn llanw bae Abertawe, yr amcangyfrif yw y bydd hyn yn creu 1,900 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda chyfleoedd sylweddol i ddatblygu cadwyni cyflenwi yn y gymuned ehangach, gan gynnwys Castell-nedd. Byddai’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygu sector amrediad llanw ar draws y Deyrnas Unedig.
Rŷm ni wedi mynegi pryderon yn gyson ynglŷn â cholledion swyddi sylweddol ar draws cyhoeddiadau Trinity Wales yng Nghymru. Fe fyddwn ni’n parhau i gyflwyno sylwadau i Trinity am y sefyllfa sy’n datblygu o ran staff yn y gogledd. Rŷm ni’n cydnabod pwysigrwydd sector cyfryngau iach fel elfen hanfodol o gymdeithas ddemocrataidd fodern.
We have a comprehensive programme of trade missions to help companies access opportunities across the world. Delegations have recently been to the Gulf and Canada and there are planned visits this year to global destinations, including Germany, India, Japan and the USA. This has been our consistent policy for many years and, in the most recent, years we have posted our best inward investment figures for 30 years.
Nid wyf i wedi cael unrhyw drafodaethau o’r fath.
Mae’r fframwaith diogelwch ffyrdd ar gyfer Cymru yn nodi’r camau gweithredu y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i gyflawni ein targedau ar leihau’r nifer sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar y ffyrdd. Bydd y fframwaith yn cael ei adolygu yn dilyn cyhoeddi ystadegau anafusion 2016.