<p>Unedau Brys a Damweiniau yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:24, 13 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Caf fy nghalonogi wrth weld gwelliannau pellach yn y perfformiad yn erbyn y targed pedair awr a gostyngiad mewn amseroedd aros hir yn ystod mis Mai. Er bod derbyniadau dyddiol wedi codi 8 y cant o’i gymharu â’r mis blaenorol, treuliodd 8 o bob 10 claf lai nag wyth awr mewn adrannau achosion brys rhwng cyrraedd a chael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau. Rwyf wedi dweud yn glir, fel y mae prif weithredwr GIG Cymru, fod disgwyl gwelliannau pellach.