<p>Unedau Brys a Damweiniau yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:25, 13 Gorffennaf 2016

Mi fyddwch chi wedi derbyn, fel yr ydw i, lythyr gan gyn-nyrs sydd â phrofiad clinigol eang. Mae hefyd yn gyn-gyfarwyddwr anweithredol o fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Yn y llythyr, mae hi’n disgrifio’r hyn a welodd hi yn uned ddamweiniau Wrecsam Maelor fis diwethaf. Mae hi’n cyfeirio yn ei llythyr at ddiffyg staff, at ddiffyg gwelyau ac effaith hynny ar allu cleifion i gael y driniaeth yr oeddent ei hangen yn amserol ac, wrth gwrs, i symud ymlaen yn y system a gadael yr ysbyty yn y pen draw. Yn ei barn broffesiynol hi, mae hi’n dweud ei bod hi’n anochel y byddai parhad o’r sefyllfa honno yn y pen draw yn arwain at farwolaethau. Mae hynny, wrth gwrs, yn honiad difrifol iawn, ond a ydych chi’n cytuno, nes inni weld lefelau mwy addas o staffio a nes inni weld mwy o welyau o fewn y system, yna mae’r tebygrwydd o weld diwedd ar rai o’r golygfeydd y mae hi’n eu disgrifio yn ei llythyr yn fach iawn?