Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Diolch. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch cynnydd prosiect Cylchffordd Cymru yn dilyn cyfarfod a gefais yn gynharach heddiw gyda Michael Carrick, prif swyddog gweithredol Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd a Martin Whitaker, prif swyddog gweithredol Cylchffordd Cymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cylchffordd Cymru ac yn darparu cymorth ariannol i ddatblygu’r prosiect hwn dros gyfnod sylweddol o amser. Rydym yn cydnabod yr effaith economaidd gadarnhaol y gallai ei chael ar Gymru, a Glynebwy yn benodol. Mae’n fenter fawr ac rydym bob amser wedi bod yn glir y dylai unrhyw gefnogaeth a ddarperir gan y trethdalwr fod yn gymesur ac yn deg.
Sefydlwyd Cwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd yn 2009 ac ers hynny mae wedi datblygu cynlluniau i greu clwstwr modurol o amgylch cylchffordd rasio a gynlluniwyd ar gyfer cynnal digwyddiadau chwaraeon modur rhyngwladol. Mae cynlluniau i leoli’r trac rasio ychydig i’r gogledd o ystad ddiwydiannol Rasa yng Nglynebwy, gyda’r nod o ddenu amrywiaeth o ddigwyddiadau rasio dwy a phedair olwyn, gan gynnwys Moto GP, gyda tharged i ddenu tri chwarter miliwn o ymwelwyr y flwyddyn o fewn tair i bum mlynedd. Mae’r datblygwr yn rhagweld y bydd y prosiect yn creu 300 o swyddi cyfwerth ag amser llawn, gan gynnwys 49 o swyddi amser llawn a 3,500 o staff rhan-amser dros dro ar gyfer digwyddiadau. Hefyd, byddai cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu yn ystod y ddwy flynedd y byddai’n ei gymryd i adeiladu’r trac.
Mae’r honiad o 6,000 o swyddi, a ddyfynnwyd yn aml yn gyhoeddus, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai swyddi ychwanegol yn cael eu creu o ganlyniad i fusnesau, yn enwedig yn y sectorau peirianyddol a modurol, yn clystyru wrth ochr y gylchffordd, a hefyd o ganlyniad i luosyddion cyflogaeth eraill megis gwestai ac arlwyo. Byddai’r prif fudd i economi Cymru yn deillio o’r buddsoddiadau y gellid disgwyl iddynt gael eu creu yn y dyfodol yn sgil bodolaeth y gylchffordd, ond yn annochel, mae rhywfaint o ansicrwydd ynghlwm wrth hynny ac ni ellir ond ei ystyried yn uchelgais hirdymor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â Chwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd ers 2011, ac ers hynny mae’r cwmni wedi galw am gymorth ariannol gennym ar bob cam allweddol o ddatblygiad y prosiect. Mae’n bwysig cofio, pan gyflwynwyd y prosiect hwn i ni am y tro cyntaf, ein bod wedi cael gwybod y byddai’n cael ei ariannu’n gyfan gwbl gan gyfalaf risg y sector preifat heb fod angen gwarant gan y Llywodraeth. Bryd hynny gwnaethom ymrwymiad i ran-ariannu datblygiad y prosiect a chytuno i roi cymorth grant o oddeutu £16 miliwn tuag at rai agweddau ar brosiect y gylchffordd, yn bennaf i gefnogi creu swyddi. Roedd y cymorth grant hwn yn amodol ar fod Cylchffordd Cymru yn codi’r cyllid preifat angenrheidiol. Yn anffodus, er gwaethaf holl ymdrechion y cwmni, ni lwyddasant i godi’r buddsoddiad preifat a nodwyd, ac oherwydd hynny, nid ydynt wedi gallu manteisio ar y grant hwn.
Yn gynharach eleni, gofynnodd Cylchffordd Cymru i ni ystyried cynnig newydd gyda strwythur ariannu gwahanol. Roedd eu cynllun yn gofyn am warant gan Lywodraeth Cymru i danysgrifennu 100 y cant o gyfleuster cyllid prosiect o £357.4 miliwn a ddarparwyd gan Aviva Investors. Byddai’r lefel honno o warant wedi cynyddu’r risg i Lywodraeth Cymru oddeutu 15 gwaith.
Ym mis Ebrill, penderfynodd fy rhagflaenydd, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, y byddai tanysgrifennu’r buddsoddiad cyfan o £357.4 miliwn ar gyfer y prosiect yn risg annerbyniol, ond pwysleisiodd y byddai’n drws yn parhau i fod yn agored pe gellid sicrhau digon o fuddsoddiad preifat a olygai y byddai’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn rhannu’r risg yn deg.
Cyflwynodd y datblygwr gynnig diwygiedig i’w ystyried yng nghanol mis Ebrill, a mireiniwyd hwnnw ymhellach a’i ailgyflwyno ar ddiwedd mis Mai yn dilyn sylwadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae rhai sylwebyddion wedi cyflwyno’r cynnig diweddaraf fel ateb gyda’r rhan fwyaf o’r arian yn dod o gyllid preifat. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r arian hwn yn dal i ddibynnu ar warant gan Lywodraeth Cymru, ac o’i ystyried ar y cyd â benthyciadau a ddarperir gan awdurdodau lleol, pwrs y wlad fyddai’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r risg o hyd.
Gan gynnwys gwarantau uniongyrchol Llywodraeth Cymru a benthyciadau gan awdurdodau lleol, mae’r cynnig diweddaraf a gyflwynwyd gan Cylchffordd Cymru yn gofyn i Lywodraeth Cymru danysgrifennu tua 75 y cant o gyfanswm cost y prosiect o £370 miliwn, gydag awdurdodau lleol yn tanysgrifennu 8 y cant pellach. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion cefnogwyr y prosiect, mae hyn golygu nad yw’r sector preifat ond yn ysgwyddo oddeutu 17 y cant o’r risg.
Fel y mae ar hyn o bryd, mae’n annerbyniol fod trethdalwyr Cymru, drwy gymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn ysgwyddo cymaint â hynny o’r risg, yn enwedig ar adeg pan ydym yn wynebu ansicrwydd economaidd sylweddol o ganlyniad i’r DU yn gadael Ewrop. Yn ein barn ni, nid yw’r prosiect hwn yn darparu’r lefel o werth am arian sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd o ystyried y risg i gymaint o arian cyhoeddus. Ar sail hynny, rwyf wedi dweud wrth Michael Carrick a Martin Whitaker heddiw fy mod yn credu bod angen gwneud rhagor o waith ar y cynnig hwn. Mae fy nrws yn parhau i fod yn gwbl agored ac rwyf wedi eu hannog i ddiwygio eu cais yn y fath fodd fel bod y sector preifat yn ysgwyddo mwy o’r risg er mwyn i’r prosiect hwn allu mynd rhagddo.
Mae angen i ni weld o leiaf 50 y cant o’r prosiect hwn yn cael ei ariannu a 50 y cant o’r risg yn cael ei thanysgrifennu gan y sector preifat i gyfiawnhau gwerth am arian i Lywodraeth Cymru a phwrs y wlad ac maent wedi derbyn yr egwyddor hon. Bydd fy swyddogion yn awr yn gweithio’n adeiladol gyda thîm Cylchffordd Cymru er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r prosiect hwn yn llwyddiannus er budd economi leol Glynebwy a Chymru yn gyffredinol.