– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Symudwn ymlaen i eitem 4, sef y cynnig i newid enw’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Mark Reckless.
Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar ran y Pwyllgor Busnes.
Diolch. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.