Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Yn ystod y ddadl yn y Senedd ar yr Undeb Ewropeaidd ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd Dafydd Elis-Thomas, pe bai Cymru yn pleidleisio i adael, y byddai’n ganlyniad methiant y dosbarth gwleidyddol yn ei gyfanrwydd, a nodais wrth y Siambr hon yn ystod y ddadl honno y pellter y mae pobl Caerffili yn ei deimlo, yn llythrennol ac yn ffigurol, oddi wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn yr Undeb Ewropeaidd. Ond heddiw, rwy’n teimlo bod ehangder y pellter canfyddedig hwn yn fwy gyda San Steffan ac weithiau mae’r Senedd hon yng Nghymru a phob Aelod yma hefyd yn cael trafferth i weithredu fel pont rhwng pobl ein hetholaethau a’r penderfyniadau a wneir yn eu henwau. Eto i gyd, mae pob un ohonom yn awyddus i gynrychioli ein hetholwyr a’n cymunedau ac mae bron bob un ohonom yn hannu o’n cymunedau. Os ydym am wneud ein gwaith, yna mae’n rhaid i ni allu siarad yn onest heb ormod o bryder am wleidyddiaeth plaid yn sgil hynny. Byddaf yn meddwl weithiau fod angen i ni ddod o hyd i gydbwysedd rhwng beio ein gilydd am y canlyniadau a gafwyd yn sgil polisïau a phwyntiau dadlau perthnasol a chraffu, ac rwy’n meddwl weithiau nad ydym yn cael y cydbwysedd cywir.
Dywedais sawl gwaith yn ystod ymgyrch etholiadol y Cynulliad ac yn ystod ymgyrch y refferendwm y byddwn yn ymgysylltu â fy mhrif gystadleuwyr, Plaid Cymru, heb betruso pe bai’n gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl rwy’n eu cynrychioli, ac rwy’n meddwl y gall Steffan Lewis dystio i hynny. Yn wir, rwyf wedi cynnal trafodaethau adeiladol gydag aelodau o’r blaid honno ac rwy’n bwriadu parhau i wneud hynny.
Gallai un o ganlyniadau refferendwm yr UE roi cyfle i ni bontio ymhellach y rhaniad gwleidyddol a amlygwyd i’r fath raddau gan yr ymgyrch. Mae Grŵp Diwygio Cyfansoddiad trawsbleidiol y DU, y mae ein David Melding yn aelod ohono, rwy’n credu, yn cynnig Deddf uno newydd sy’n rhoi sofraniaeth lawn i bob cenedl a rhanbarth dros eu materion eu hunain—Teyrnas Unedig ffederal ar ei newydd wedd ac wedi ei hailrymuso. Dylem edrych ar y syniadau hyn gyda diddordeb.
Yn y cyfamser, ac yn yr un modd ag y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, rhaid i’r Prif Weinidog newydd weithio gyda’n Llywodraeth etholedig yma i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i gynllun ymadael Cymreig unigryw a’n strategaeth economaidd fod yn rhan annatod o’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r cynnig heddiw yn gosod llinellau coch hanfodol yn y trafodaethau hyn ac mae gwelliannau fy nghyfaill, arweinydd y tŷ, yn cryfhau hynny gyda galwad glir am gyllid tecach.
Ond rhaid i mi ddweud, yng nghyfrif pleidlais y refferendwm yng Nghaerffili cefais fy nharo gan ddathliadau gwyllt aelodau UKIP, nad oeddwn yn meddwl eu bod yn briodol o ystyried y ffaith amlwg nad oedd gan UKIP unrhyw gynllun ynglŷn â beth fyddai’n digwydd nesaf. Dywedodd Nigel Farage fod yr addewid i warantu £350 miliwn yr wythnos i’r GIG yn un o’r camgymeriadau a wnaed gan yr ymgyrch dros adael, ac eto roedd ef a gweddill aelodau’r UKIP yn dawel am yr addewid hurt hwn yn ystod yr ymgyrch. Rwy’n amau mai’r rheswm am hynny, mewn gwirionedd, oedd oherwydd nad oeddent wedi meddwl mor bell ymlaen â hynny ac nad oeddent yn disgwyl ennill y refferendwm mewn gwirionedd.
Ond mae pobl ledled Cymru yn malio’n angerddol am ein GIG a’r hyn rydym ei angen yn awr yw eglurder ynghylch y trefniadau ariannu, fel yr amlinellir yn y cynnig ac fel yr addawyd gan aelodau o Lywodraeth y DU.
Gall ymgyrchoedd etholiadol gyfoethogi bywyd, drwy ymgysylltu â phrofiadau a rhoi cyfle i gyflwyno’r achos i’r wlad, ond mae’n ymddangos i mi nad oedd ymgyrch y refferendwm yn gwneud yr un o’r pethau hynny. Heddiw, rydym yn teimlo’r effeithiau ymrannol ar ein cenedl. Ac rwy’n meddwl am yr hyn a ddywedodd Leanne Wood am gynrychiolaeth gyfrannol; mae gennyf feddwl agored, yr unig beth sy’n fy mhoeni yw hyn: o bosibl, pe bai gennym system wirioneddol gyfrannol yn 2011 ar gyfer ethol i’r lle hwn, efallai y byddem wedi gweld aelodau o BNP yn cael eu hethol bryd hynny, fel y cawsant eu hethol i Gynulliad Llundain. Nid wyf yn awgrymu bod hynny’n rhywbeth y dylem ei ddiystyru—cynrychiolaeth gyfrannol—ond mae’n ganlyniad y dylem ei gadw mewn cof.
Dylem i gyd, felly, gofio am y pryderon ynglŷn â throseddau casineb sy’n cael eu cyflawni ar draws y wlad yn sgil y bleidlais. Yng Ngwent, cafwyd cynnydd o 46 y cant mewn troseddau casineb yn y cyfnod cyn y refferendwm, ac roedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, fy rhagflaenydd rhagorol fel Aelod Cynulliad dros Gaerffili, Jeff Cuthbert, yn gywir i ddweud na fydd cam-drin hiliol yn cael ei oddef gan yr heddlu. Rwy’n falch fod fy awdurdod lleol yng Nghaerffili yn parhau i ymgysylltu â thrigolion er mwyn trechu troseddau casineb a bwriadaf gefnogi cynnig i’r perwyl hwnnw gan gynghorwyr Caerffili yn enw’r cynghorydd Roy Saralis yn y cyngor llawn yr wythnos nesaf, cynnig a gefnogir gan Blaid Cymru hefyd. Weithiau, rwy’n credu y byddai’n well pe baem yn meddwl mwy am y pethau hyn na’r pethau gwirion y ceisiwn ddod o hyd iddynt i’n rhannu yn ystod ymgyrchoedd etholiadol lleol.
Rydym yn byw mewn cyfnod cyfnewidiol yn wleidyddol, ond beth bynnag a ddaw yn sgil canlyniad y refferendwm, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o gydweithio ar faterion sy’n gyffredin rhyngom. Rhaid i ni allu gweithredu yn ôl egwyddorion craidd ein plaid a’n pobl heb greu rhaniadau diangen a rhaid i ni gael cynllun clir ar gyfer gadael yr UE a fydd o fudd i Gymru. Mae hynny’n glir yn y cynnig hwn a’r gwelliant. Ond rhaid i ni hefyd sicrhau bod yr amser i ddod yn fuddiol i bobl ein cenedl, hyd yn oed os yw hynny’n golygu dealltwriaeth newydd o genedligrwydd. Dyna destun ar gyfer trafodaeth ehangach o bosibl.