Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 13 Gorffennaf 2016.
Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar ddiwydiant dur Cymru oherwydd, fel y gwyddom, gwnaethpwyd honiadau amrywiol am ddyfodol llewyrchus i’r diwydiant gan y rheini oedd o blaid Brexit yn y cyfnod cyn y refferendwm—honiadau a oedd wedi cael effaith ar rai gweithwyr dur, rhaid dweud, a sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm hwnnw.
Felly, nawr mae'n gyfrifoldeb ar y rhai a ymgyrchodd i adael yr Undeb Ewropeaidd—y rhai sydd yn dal yn meddu ar swyddi pwerus, er mai ychydig ohonynt sydd ar ôl erbyn hyn—i weithredu ar eu honiadau. Felly, gadewch inni ddechrau drwy edrych ar yr honiadau hynny: (1) bydd cyflwyno tariffau ystyrlon tebyg i rai'r Unol Daleithiau ar ddur o Tsieina a dur arall sydd wedi'i ddympio yn digwydd; (2) heb faich rheolau cymorth gwladwriaethol amhoblogaidd, gellir cynnig arian i Bort Talbot a gweithfeydd eraill i'w helpu i ddod yn fwy cystadleuol; a (3) gall mynediad rhydd at farchnadoedd Ewropeaidd barhau'n ddirwystr. Mae'n bwysig nodi fan hyn bod y diwydiant dur yn gweld cyfleoedd yn ogystal â heriau yn dilyn Brexit.
Mae rhai yn y diwydiant wedi dweud wrthyf y byddai punt wannach yn cynorthwyo cystadleuaeth yn y byrdymor a'r tymor canolig, a chysylltiadau masnach newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y tymor canolig a hir, ynghyd â rheolau diwygiedig o ran cymorth gan Lywodraeth y DU ar ôl 2020. Mae'r heriau—ac mae'n rhaid i gefnogwyr Brexit ateb y rhain—yn cynnwys ansicrwydd i gwsmeriaid, llai o ddylanwad gan y Deyrnas Unedig ar lunio polisi yn yr Undeb Ewropeaidd, perthynas fasnach newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, a allai o bosibl fod yn beth da neu yn beth drwg, yn ôl pob tebyg, a llai o fynediad at ymchwil a datblygu. Mae'r ffactor olaf yn rhoi cynigion ar gyfer canolfan ymchwil dur yng Ngorllewin De Cymru, yn gweithio mewn partneriaeth rhwng Port Talbot a champws arloesi Prifysgol Abertawe, mewn perygl.
Mae cefnogwyr Brexit wedi nodi'n obeithiol tariffau o 500 y cant a mwy a osodir gan yr Unol Daleithiau ar ‘rebar’ o Tsieina, ymhlith pethau eraill. Yr hyn yr hoffwn i ei glywed yma heddiw yw sut y caiff y rheini eu hailadrodd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, pan wnaeth eu haelodau o Senedd Ewrop nid yn unig bleidleisio yn erbyn cynigion llawer mwy cymedrol yr Undeb Ewropeaidd, fel y gwnaeth UKIP, ond yn wir y gwnaeth eu gweinidogion nhw ddifetha'r cynllun yng Nghyngor y Gweinidogion.
Pan mae gennych Weinidog dros ddiwydiant nad yw’n credu mewn strategaeth ar gyfer diwydiant oherwydd ei ddelfrydau masnach rydd, yna mae’n rhaid i hyd yn oed yr ymgyrchydd mwyaf brwd dros adael yr Undeb Ewropeaidd gyfaddef bod mwy o waith perswadio i’w wneud.
Rydym yn gwybod y byddai mantais gystadleuol Port Talbot yn well o lawer pe byddai modd adeiladu gorsaf bŵer newydd fyddai’n torri ei gostau ynni enfawr yn sylweddol, tra’n lleihau lefelau allyriadau—nid bod angen inni boeni am y fath reolau trafferthus gan yr Undeb Ewropeaidd mwyach, wrth gwrs. Gallai’r gost fod mor uchel â £250 miliwn. A yw hyn yn lot o arian? Wel, na, nid pan fyddwch yn ei gymharu â chost colli Port Talbot. Mae’r Athro Gerry Holtham wedi amcangyfrif ei fod yn cynrychioli tua 6 y cant o werth ychwanegol crynswth Cymru. Mae’r cyfrifiadau a wnes i ar gefn napcyn yn amcan bod hynny’n tua £3.5 biliwn, gan ganiatáu ar gyfer ychydig filiynau un ffordd neu’r llall. Mae oddeutu 16,000 yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar y safle, neu’n ei gyflenwi, neu’n contractio iddo. A dyna i chi tua £435 miliwn arall.
Rhwng popeth, gallai hynny olygu cymaint â £4 biliwn i economi Cymru. Felly, edrychwn ymlaen at weld yr arian ar gyfer gorsaf bŵer newydd yn eithaf buan, o gofio bod symud yn gyflym yn hollol hanfodol. Byddai unrhyw beth arall yn ddim llai nag esgeulustod o ran ein cyfrifoldeb ni at y bobl hynny sydd yn byw yno ac sydd yn gweithio ym Mhort Talbot.
Byddai hefyd yn braf clywed sut byddwn yn gwneud yn iawn am y diffyg cyllido enfawr mewn ymchwil a datblygu, er mwyn peidio â cholli’r math o gyfle a nodais i yn gynharach yn fy araith i—yr unig ganolfan ddur yn Ewrop o fewn tafliad carreg i ffwrneisiau Port Talbot. Mae’n swnio’n gyfle rhy dda i’w golli.
Dywedais yr wythnos diwethaf sut mae Cymru yn anghymesur o ddibynnol ar allforio haearn a dur o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Y llynedd, fe wnaethom ni fewnforio 40 miliwn o dunelli o haearn a dur ond fe allforiom ni £1 biliwn—dwy waith a hanner yn fwy. O'r swm hwnnw, mae tua 69 y cant, dros ddwy ran o dair, yn mynd i’r farchnad Ewropeaidd. Mae un rhan o dair o werthiannau Tata Port Talbot o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae gweithwyr dur ym Mhort Talbot a phob rhan o Gymru wedi pleidleisio, a nawr maen nhw’n disgwyl canlyniadau. Mae’n bryd i Brexit gyflawni ar gyfer y diwydiant dur er mwyn iddo fod yn llwyddiannus yn y dyfodol.