1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Medi 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Metro De Cymru? OAQ(5)0128(FM)
Mae’r broses o gaffael y gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau, sy'n cynnwys y metro, wedi dechrau. Yn amodol ar gystadleuaeth lwyddiannus, bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ddiwedd y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn amlwg wedi bod yn flaenllaw ym meddyliau fy etholwyr i ac ACau eraill dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf wrth i gyfnod cau chwe wythnos twnnel Hafren gychwyn ar gyfer y gwaith trydaneiddio pwysig. Mae cyflymder teithio yn agwedd allweddol ar ansawdd bywyd, felly roeddwn yn bryderus iawn o glywed efallai na fydd Trefynwy yn rhan o fap metro’r dyfodol, yn dilyn pryderon ynghylch cyllid yn sgil y bleidlais Ewropeaidd. Sut allwch chi sicrhau fy etholwyr i y bydd y cynllun metro yn cyrraedd pob rhan o’r de-ddwyrain, fel nad oes neb yn teimlo eu bod wedi’u hallgau, ac a yw’r Llywodraeth yn ystyried pob dewis o ran y metro mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys gwasanaethau bws a llwybrau bysiau gwell?
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i newid y cynigion presennol ar gyfer y metro, a bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, fod Trefynwy yn rhan o'r metro o ran ei ddatblygiad yn y dyfodol. Yr hyn sy'n gywir, fodd bynnag, yw bod disgwyl i werth £125 miliwn o’r cyllid ar gyfer y metro ddod o arian Ewropeaidd. Nawr, heb y cyllid hwnnw, yn amlwg bydd terfyn ar ba mor bell a pha mor gyflym y gall y prosiect metro fynd yn ei flaen. Nawr, rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedwyd na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i adael yr UE—gwn, yn wir, y dywedwyd y bydd cyllid ar gyfer bob un rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem yn pleidleisio i adael; Andrew R.T. Davies, 14 Mehefin. Felly, mae ganddo sicrwydd gan ei arweinydd ei hun y bydd y £125 miliwn yn dal i fod ar gael ar gyfer y metro, ac rwy'n siŵr y bydd yn derbyn y sicrwydd hwnnw gyda rhywfaint o gysur.
Brif Weinidog, mae nifer ohonom ni ar y meinciau hyn hefyd yn aelodau o'r Blaid Gydweithredol, a threuliasom ran o'r penwythnos yn trafod swyddogaeth mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn economi Cymru. A ydych chi’n cytuno y byddai'n ganlyniad cadarnhaol i weld cwmnïau dielw, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol yn rhan annatod o’r ddarpariaeth o wahanol agweddau ar fetro de Cymru?
Yn sicr; hynny yw, rydym ni eisiau gweld model sy'n buddsoddi, wrth gwrs, yn y rhwydwaith ei hun a model sy'n darparu gwasanaeth da i deithwyr am bris teg. A dyma’r materion y byddwn ni’n eu hystyried wrth i broses gaffael y metro fynd yn ei blaen.
Cyn toriad yr haf, wfftiodd y Prif Weinidog at awgrymiadau y dylid rhoi statws neilltuol i ddinas Casnewydd a chanolfannau eraill y tu allan i Gaerdydd ei hun yn y cynllun economaidd ar gyfer y brifddinas-ranbarth a'r metro arfaethedig. A wnaiff y Prif Weinidog felly gadarnhau nad yw ei gynlluniau ar gyfer y briffddinas-ranbarth yn ddim mwy na gwneud cymudo i Gaerdydd yn haws, yn hytrach na bod yn gynllun cynhwysfawr i ledaenu cyfleoedd i greu swyddi ar draws y de-ddwyrain cyfan?
Na wnaf. Hynny yw, wrth gwrs bod Casnewydd a'r Cymoedd yn rhan o’r rhanbarth gan ei fod yn rhanbarth economaidd. Y gwir amdani yw bod 11 miliwn o bobl y flwyddyn yn dod trwy orsaf Caerdydd Canolog; maen nhw’n gymudwyr—llawer ohonyn nhw’n dod i lawr o gymunedau’r Cymoedd. Mae'n iawn i ofyn y cwestiwn, wrth gwrs: ai dim ond dod â phobl o gymunedau’r Cymoedd i Gaerdydd yw diben hyn? Hanner y stori yw hynny. Hanner arall y stori yw ei gwneud yn haws i fuddsoddwyr symud eu buddsoddiadau i fyny i gymunedau'r Cymoedd wrth iddi ddod, yn eu meddyliau nhw, yn haws cyrraedd yno. Mae'n rhaid iddo fod yn llif dwyffordd er mwyn i’r rhanbarth weithredu'n effeithiol.
Er bod fy mhlaid i’n croesawu'r prosiect metro yn gyffredinol, mae’n anodd rhagweld, o edrych yn fanylach, unrhyw fantais wirioneddol y mae’n ei gynnig i gytrefi Cymoedd y dwyrain. A allai'r Prif Weinidog nodi ble, os o gwbl, y rhagwelir gwelliannau i wella cysylltedd ar gyfer yr ardal hon?
Wel, yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae gennym ni’r rhwydwaith rheilffyrdd presennol i mewn i Gaerdydd ac mae hynny’n cynnig y cyfle i ni archwilio sut y gellir gwneud y rhwydweithiau hynny yn gyflymach yn y dyfodol. Ond y pwynt am y metro yw ei fod yn estynadwy—nid yw’n ymwneud yn syml ag edrych ar y strwythur sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd y metro yn y dyfodol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn cynnwys rheilffyrdd ysgafn newydd a chysylltedd bws newydd, yn enwedig rhwng Cymoedd, lle, wrth gwrs, mae'n eithaf anodd gan fod popeth yn tueddu i fod o'r gogledd i'r de. Mae dwyrain Caerdydd yn yr un sefyllfa, wrth gwrs—mae dwyrain Caerdydd yn cael ei wasanaethu’n wael gan y rhwydwaith rheilffyrdd—ac wrth i’r metro gael ei gyflwyno, rydym ni’n gwbl ymwybodol o'r ffaith fod angen i ni edrych ar yr ardaloedd hyn lle, yn sicr, nad oes cludiant rheilffordd yn bodoli, neu nad oes llawer ohono, i wneud yn siŵr bod y bylchau hynny’n cael eu llenwi yn y dyfodol.