Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 13 Medi 2016.
Wel, rwyf innau hefyd yn croesawu yn ôl rheolwr busnes Plaid Cymru. Yn wir, rydym ni eisoes wedi cael sgwrs ac rydych chi wedi codi llawer o bwyntiau pwysig iawn ar gyfer y Cynulliad hwn—yn wir, pwyntiau pwysig iawn y bu’r Prif Weinidog yn rhoi sylw iddynt dros fisoedd yr haf. Nid wyf yn gwybod lle yr oeddech chi, ond roeddwn innau yn sicr yn cydnabod bod y Prif Weinidog ar flaen y gad, nid dim ond, wrth gwrs, o ran ein safle cyfansoddiadol, ond hefyd o ran effaith Brexit a'r ffordd ymlaen, yn cwrdd â Phrif Weinidog y DU, ac yn mynd i'r afael hefyd â llawer o'r pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud. Ac, wrth gwrs, mae’n rhaid i ni gydnabod bod Bil Cymru yn dal i fod ar ei ffordd. Gwnaeth y Prif Weinidog ei safbwynt ynglŷn â Bil Cymru yn glir iawn pan gawsom y ddadl ar Araith y Frenhines ac yn wir, daeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma ym mis Gorffennaf.
Mae gennyf ddiddordeb, hefyd, i glywed am weithgarwch y Llywodraeth dros yr haf, a bydd Aelodau'n ymwybodol y bu, mewn gwirionedd, 28 o ddatganiadau ysgrifenedig ynglŷn â’r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd, ers fy natganiad busnes diwethaf, ac, wrth gwrs, rydym ni’n parchu’n fawr y ffaith nad ydym am i bobl feddwl ein bod yn cymryd camau heb ymgynghori neu graffu’n llawn ar y pwynt trwy gydol y toriad, ond rydym ni wedi bod yn glir iawn ein bod wedi bod yn llywodraeth weithredol, ragweithiol, yn bwrw ymlaen â'n cyfrifoldebau drwy gydol y toriad, ac yn cyflawni ein cyfrifoldebau. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion, wrth gwrs, a fydd yn cael eu trafod maes o law.