Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 13 Medi 2016.
Arweinydd y tŷ, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ofyn yn garedig i'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyflwyno datganiad ynglŷn â band eang a chyflwyno’r prosiect Cyflymu Cymru. Nawr, rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan nifer o etholwyr dros yr haf yn pryderu nad ydynt yn gallu cael gafael ar wasanaeth band eang priodol a digonol, a bod eu gwasanaeth band eang, mewn rhai achosion, wedi dirywio'n sylweddol. Er bod band eang cyflym iawn wedi ei gyflwyno mewn rhai rhannau o Gymru, mae rhai cymunedau o hyd, a llawer ohonynt yn Sir Benfro, nad oes ganddynt wasanaeth band eang digonol hyd yn oed. Wrth gwrs, mae'n hanfodol i bobl allu cael gafael ar wasanaethau band eang dibynadwy.
Y llynedd, dywedodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn sicrhau nad yw cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl, ond yn ôl gohebiaeth yr wyf wedi ei derbyn yn ddiweddar, nid yw hynny'n wir yn Sir Benfro yn anffodus. Felly, a wnewch chi annog y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i wneud datganiad ar y mater hwn cyn gynted ag sy’n bosibl, er mwyn i’r bobl sy'n byw yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli allu deall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi eu huchelgais i gael gwasanaeth band eang digonol, a sut mae'n bwriadu monitro cyflwyniad gwasanaethau band eang?