Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 13 Medi 2016.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y dreth trafodiadau tir. Rydym yn gwybod fod y dreth trafodiadau tir yn dreth gyfnewidiol a chylchol. Rydym yn gwybod hefyd ei bod wedi gostwng £110 miliwn rhwng 2007-08 a 2009-10. Rydym yn gwybod hefyd fod y gyfradd o gynyddu refeniw yn ne-ddwyrain Lloegr, yn enwedig Llundain, yn fwy nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwybod hefyd fod y cynnydd yn Llundain o leiaf yn rhannol o ganlyniad i bryniannau tramor—mae Llundain yn ddinas ryngwladol. Gan fod gwerth y bunt wedi gostwng yn sylweddol yn erbyn yr ewro a'r ddoler, mae prisiau eiddo yn yr arian hynny wedi gostwng yn sylweddol hefyd.
A gaf i ddweud, mae'r Bil yn nodi datblygiad sylweddol o ran datganoli trethi? Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen i ni ei ystyried. Croesawaf yn fawr gyflwyniad y rheol gyffredinol ar atal osgoi. Yn y Cynulliad diwethaf, roedd rhai ohonom a oedd ar y Pwyllgor Cyllid yn trafod yr angen am reol gyffredinol ar atal osgoi ac rwy'n falch iawn o weld bod hynny wedi digwydd.
Mae gennyf i ddau gwestiwn mewn gwirionedd. Mae un yn ymwneud ag eiddo ar y ffin. Mae'n nodi yn y Bil:
'Yn unol â hynny, mae trafodiad Cymru i'w drin fel trafodiad tir o fewn ystyr y Ddeddf hon (sef caffael buddiant trethadwy sy'n ymwneud â'r tir yng Nghymru).'
Os oes tir yng Nghymru a Lloegr, ac os yw'r gyfradd yr un fath yng Nghymru a Lloegr, a fydd yr un swm yn cael ei gasglu ar ôl cyflwyno'r Ddeddf hon, ac wedyn yn cael ei rannu rhwng Cymru a Lloegr fel sy'n digwydd ar hyn o bryd? H.y., a fydd cyfle i bobl dalu llai o dreth drwy gael gwerth yn Lloegr a gwerth yng Nghymru sy'n golygu eu bod o dan drothwy, a fyddai'n lleihau faint o arian sy'n rhaid iddynt ei dalu?
Mae'r ail bwynt mewn gwirionedd-neu'r ddau bwynt nesaf, mewn gwirionedd, yn ychwanegu at bwyntiau Adam Price; mae’n drueni fy mod heb siarad o'i flaen i ddweud y gwir. Mae'r un cyntaf yn ymwneud â'r rheol dim niwed: a yw honno am gael ei chymhwyso? Os ydym ni’n mynd i weld Llundain a de-ddwyrain Lloegr, yn enwedig Llundain, yn cynyddu mewn gwerth-ac mae yna dai yn Llundain sydd werth £50 miliwn a £60 miliwn; mae gennyf i strydoedd yn fy etholaeth am y prisiau hynny—rwyf wir yn credu bod y sefyllfa hynny'n bodoli, o ran y gwerth sy'n bodoli, sef ein bod yn mynd i golli allan dros gyfnod o amser, oni chyflwynir y rheol dim niwed. Mae hynny naill ai'n golygu, fel y dywedodd Adam Price, eithrio Llundain a de-ddwyrain Lloegr a’n cymharu ni â rhannau cymharol o Loegr, neu feddwl am ryw ffordd arall o'i wneud fel nad yw cyllideb Cymru ar ei cholled.
Y trydydd pwynt—ac rwyf am fod hyd yn oed yn fwy direidus nag Adam Price wrth geisio eich temtio, Weinidog—yw hyn: ai nawr yw’r amser i ddechrau trafod perthnasedd treth gwerth tir, yn hytrach na'r trethi eiddo hyn, lle caiff pobl eu trethu yn ôl gwerth eu tir? Gwn ein bod wedi siarad am y peth o'r blaen, cyn i chi ddechrau yn eich swydd bresennol. A yw hi bellach yn amser o leiaf i ddechrau dadl ar y pwnc hwnnw?