Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 13 Medi 2016.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf bob amser yn falch o glywed Nick Ramsay yn dweud y pethau hynny am y fframwaith cyllidol; gwnes i ei ddyfynnu yn fy nghyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys er mwyn rhoi gwybod i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys y fath bwysau oedd arnaf i gan feinciau'r Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i sicrhau bod y fframwaith cyllidol yn cael ei drafod yn briodol o safbwynt Cymru. Felly, byddaf yn falch o allu dweud wrtho fod y buddiannau hynny'n parhau yn gadarn iawn.
Gan weithio tuag yn ôl, mewn ffordd, trwy'r cwestiynau, wrth gwrs ei bod yn uchelgais gennym ni nid yn unig i gymryd lle'r dreth bresennol ond i wella'r ffordd y mae'r math arbennig hwn o drethiant yn cael ei weithredu yma yng Nghymru. A ydym ni'n gwneud dim ond copïo cyfraith Lloegr? Nac ydym. Un o nodweddion treth dir y dreth stamp yw'r ffordd, fel y mae deddfwriaeth yn tueddu i wneud, y mae wedi aeddfedu dros y blynyddoedd gan fod darnau yn cael eu hychwanegu ati a darnau'n derbyn pleidlais yn rhan o Fil arall sy'n golygu ei bod yn eithaf anodd cael gwybod popeth y mae arnoch angen ei wybod. Felly, rydym mewn sefyllfa ffodus, sef ein bod ni’n gallu gwneud yr holl newidiadau hynny mewn un lle, gan wneud y gyfraith yn fwy hygyrch a dealladwy. Ac rydym yn sicr wedi dysgu llawer iawn gan arbenigwyr yma yng Nghymru—arbenigwyr ar drethi, ond hefyd arbenigwyr ym maes trafodiadau tir—ac rwy'n credu bod budd y cyngor y maent wedi'i roi o’u gwirfodd i’w weld yn y Bil. Rydym yn sicr yn dymuno, yn y modd y gofynnodd Nick Ramsay, barhau i elwa ar hynny yn ystod hynt yn Bil. Mae'r strwythurau cynghori a roddwyd ar waith i raddau helaeth gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, am barhau i gael eu gweithredu drwy gydol taith y Bil hwn drwy'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Nick Ramsay yn gwbl gywir i ddweud, er na cheir llawer o eiddo mewn gwirionedd sydd ar y ddwy ochr i’r ffin, mae yna lawer mwy o drafodiadau o eiddo ar hyd y ffin, ac felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod gan ymarferwyr ar ochr arall y ffin wybodaeth dda am y rheolau y byddant yn ddarostyngedig iddynt os ydynt yn gweithio yng nghyd-destun Cymru. Mae llawer o waith wedi'i wneud eisoes o fewn y meysydd proffesiynol gan ddefnyddio rhwydweithiau proffesiynol a chyhoeddiadau proffesiynol, ac yn y blaen, i hyrwyddo dealltwriaeth, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael yn rhwydd i bobl sydd angen paratoi eu hunain i allu rhoi cyngor da.
Credaf fod cyhoeddi fersiwn ddrafft o'r Bil yn syth cyn y toriad, gyda chytundeb swyddfa'r Llywydd, wedi bod yn llwyddiannus o ran caniatáu i’r rhai hynny a fydd yn gorfod gwneud y gwaith ymarferol o dan y llyfr rheolau newydd hwn—o ran rhoi sicrwydd iddynt ein bod, yn y lle cyntaf, yn bwriadu cynnal cysondeb a'n bod ni wedyn yn caniatáu ar gyfer dargyfeirio wrth i bethau ddatblygu.
Yn olaf, o ran cosbau ac osgoi trethi, mae Nick Ramsay'n cyfeirio at ddogfen ymgynghori a gyhoeddodd y Trysorlys yn ystod mis Awst, sy'n nodi ei fod yn cynllunio cyfundrefn ataliol newydd ar gyfer y rhai hynny sy'n rhoi cyngor sy'n amlwg wedi'i roi at ddibenion osgoi trethi sydd i'w casglu'n gyfreithlon. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ar 12 Hydref, felly nid ydym yn gwybod yn sicr mewn gwirionedd beth fydd y Trysorlys yn ei wneud. Bu rhywfaint o ymatebion eithaf gelyniaethus i rai o'r syniadau a gynigwyd gan y Trysorlys. Rwy'n awyddus iawn i gadw llygad barcud ar y sefyllfa a gweld faint y byddwn ni'n dymuno ei ail-greu yn ein Bil ni, o ran y mesurau ataliol sy'n cael eu hystyried yn Llundain.