Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 13 Medi 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Byddwch yn falch o gael gwybod fy mod i am ofyn i chi am y dreth trafodiadau tir ac nid am yr amrywiaeth o drethi damcaniaethol eraill, boed hynny'r dreth dir neu'n dreth gyfoeth neu beth bynnag. Rwy'n credu bod gennym ddigon ar ein plât wrth fynd i'r afael â'r darn hwn o ddeddfwriaeth. Gwnaethoch chi sôn fod hon yn foment hanesyddol: y dreth Gymreig gyntaf mewn cannoedd—credaf mai 800 o flynyddoedd oedd y rhif. Roeddwn yn teimlo fel pe bai wedi cymryd 800 o flynyddoedd i mi ddarllen y ddogfen. A dweud y gwir, mae’n ddogfen go swmpus, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae llawer ynddi i ni ei ystyried cyn y bydd hwn yn y pen draw yn fodel ar gyfer treth trafodiadau tir a fydd yn cael ei weithredu ar draws Cymru. Er fy mod yn cydnabod y cyfarwyddyd mwy eithafol a nodwyd gan Adam Price a Phlaid Cymru yn gynharach, rwy'n falch eich bod wedi dilyn egwyddor y Gweinidog Cyllid blaenorol o ran cadw pethau yr un fath ag y maent ar draws y ffin, a dim ond gwyro lle mae hynny'n gwbl angenrheidiol. Yn sicr, i ddechrau, ym mlynyddoedd cyntaf gweithrediad y dreth hon, rwy'n credu bod hynny'n benderfyniad call.
Rydych chi'n sôn am beidio â newid er mwyn newid. Gallwn ddweud fod hynny'n ddull Ceidwadol dda o weithio, Ysgrifennydd y Cabinet, ond byddai hynny'n debygol o fod yn elyniaethus, felly byddaf yn peidio â sôn dim mwy am hynny. Gwnaethoch chi sôn am gysondeb—a gofynnwyd i chi gan Mike Hedges ac Adam Price am gysondeb—rwy'n siŵr eich bod yn cydnabod ei bod yn hawdd siarad am gysondeb, ond a allaf ofyn i chi sut yr ydych chi'n sicrhau bod y cysondeb hwn yn cael ei gynnal a sut y bydd yn cael ei gynnal yn ymarferol? Ai mater syml ydyw ar y naill law o gopïo cyfraith Lloegr lle y bo'n briodol, neu wrando ar arbenigwyr yn y maes a allai fod â'u barn eu hunain ynglŷn â'r gyfraith ar draws y ffin a meysydd y maent o'r farn y gallent fod yn well yma a lle, yn wir, y gallai fod yn waeth dros y ffin? Sut ydych chi'n cydbwyso'r cysondeb hwnnw? Ac—rydych chi wedi crybwyll hyn—sut yr ydych chi'n cynnwys rhanddeiliaid mewn proses barhaus wrth i'r dreth gael ei datblygu ac, yn wir, wrth iddi ymwreiddio?
Rydym yn gwybod y bu pryderon a gofidion yn y byd trethi ynghylch sefyllfa lle ceir cyfundrefn dreth wahanol yma. Mae'r dreth trafodiadau tir, fel y dywedasoch, yn arbennig o agored i'r feirniadaeth hon oherwydd y ffordd y mae pobl yn prynu a gwerthu tai ar hyd y ffin. Rwy'n gwerthfawrogi efallai mai dim ond ychydig o eiddo a geir lle mae'r tir ar y ffin, ond mae llawer iawn, iawn o eiddo yn agos at y ffin ac a fydd yn rhan o'r ystyriaeth wrth i bobl benderfynu a ydynt yn mynd i brynu tai yma neu yn Lloegr. Felly, sut rydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â phryderon yr arbenigwyr treth hynny? Bydd angen bod â dealltwriaeth o'r gwahaniaethau; sut rydych chi'n hybu'r ddealltwriaeth hon? Rwy'n credu o'm cyfarfod gyda chi yr wythnos diwethaf, fod arbenigwyr treth a rhanddeiliaid sydd eisoes wedi gweld y ddeddfwriaeth, wedi’u sicrhau i ryw raddau, ac rwy'n credu bod hynny i raddau helaeth o ganlyniad i lawer iawn o waith caled gan eich aelodau staff wrth geisio sicrhau, yn y lle cyntaf, fod hyn mor ymarferol â phosibl. Sut rydych chi'n mynd i barhau i roi sicrwydd iddynt yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod fel nad ydynt yn colli hyder yn y broses?
Yn ystod yr haf, rydym wedi gweld newidiadau i dreth stamp y DU o ran mynd i'r afael ag osgoi talu treth. Gwnaethoch chi sôn am y rheol gyffredinol ar atal osgoi. Fel y gwnaethom drafod yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf, yn Lloegr, bydd cynghorwyr treth hefyd yn atebol am achosion o osgoi, nid dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau ar y ffurflenni treth. Bydd yn cynnwys felly gynghorwyr a phobl sy'n llenwi eu ffurflenni treth ac yn talu treth yn y lle cyntaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y ddeddfwriaeth newydd yng Nghymru yn cynnwys y newidiadau hyn. Sut y mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni yn awr? Nid wyf yn credu ei fod yn y ddogfen honno ar hyn o bryd. Sut rydych chi'n sicrhau bod y ddeddfwriaeth, yn gyntaf, yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn ail, am gael ei diweddaru'n rheolaidd ag unrhyw newidiadau y mae'r Cynulliad yn eu hystyried yn angenrheidiol dros y blynyddoedd sydd i ddod? Nid wyf yn credu bod diweddaru awtomatig am ddigwydd mwyach wrth i'r dreth hon a threthi eraill yng Nghymru wahaniaethu o drethi Lloegr, felly mae'n bwysig ein bod yn gwybod bod modd sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon a deddfwriaeth arall sy'n ymwneud â threthi yn addas ar gyfer y dyfodol.
Dau beth i gloi, Ysgrifennydd y Cabinet: a ydych chi’n cytuno â mi mai'r bwriad yma, y greal sanctaidd os mynnwch chi, yw profi'r beirniaid yn anghywir a gwneud rhywbeth gwell yma yng Nghymru, rhywbeth y byddai trethdalwyr yng Nghymru mewn gwirionedd yn ei ystyried yn well na'r hyn sydd wedi bod o'r blaen, yn hytrach na dim ond creu treth trafodiadau tir boddhaol yn lle treth y DU? Mae'n haws dweud na gwneud, rwy'n gwybod—a’r gwir amdani yw nad talu trethi fydd dewis cyntaf unrhyw un, ond mae'n un o ffeithiau bywyd, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y byddech chi a'ch Llywodraeth yn awyddus i'w wneud mor hawdd â phosib i bobl yma yng Nghymru.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, o ran y mater a godwyd gan Blaid Cymru a Mike Hedges ynglŷn â'r fframwaith cyllidol, ydw, rwy'n credu na allwch chi weld y dreth trafodiadau tir a'r fframwaith cyllidol ar wahân. Mae’n wir, ac yn anochel, ac rydym ni i gyd yn deall y bydd, wrth gwrs, ostyngiad yn y grant bloc i Gymru pan fydd y trethi hyn yn dod i rym, ond yr hyn nad ydym am ei weld—neb ohonom yn y Siambr hon—yw gostyngiad annheg yn y grant bloc. I ddechrau, efallai na fydd hynny'n digwydd, ond wrth i'r blynyddoedd fynd heibio ac wrth i chi wynebu materion megis chwyddiant a newid yn y boblogaeth, mae perygl, oni bai bod y fframwaith cyllidol yn gweithredu'n briodol, y gallai Cymru fod ar ei cholled yn y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch chi gyda'r Trysorlys, a pha drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, i wneud yn siŵr eu bod yn deall ein pryderon yma ac yn eu gwerthfawrogi’n llawn, er mwyn gwneud yn siŵr y bydd y trethi hyn yn gweithio cystal ag sy'n bosibl pan fyddant yn dod i rym?