<p>Taflu Sbwriel</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nathan Gill Nathan Gill Independent 1:30, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y mis nesaf, bydd fy awdurdod lleol ar Ynys Môn yn newid i gasgliadau sbwriel bob tair wythnos, ar ôl penderfynu yn erbyn casgliadau bob pedair wythnos am y tro. Ym mis Awst, llwyddodd pob un ond tri awdurdod lleol i gyrraedd eu targedau ailgylchu, sy’n dda iawn—hynny yw, mae hwnnw’n gyflawniad da—gan gynnwys pob awdurdod yng ngogledd Cymru. Yn achos Ynys Môn, llwyddasom i gyrraedd y targed hwnnw hefyd. Gwnaethom hynny wrth gasglu bob pythefnos. A allwch chi esbonio i bobl Ynys Môn pam ein bod yn awr yn newid i gasgliadau bob tair wythnos, sy’n teimlo i mi braidd fel pe baem yn cosbi pobl sydd wedi cyflawni yr hyn roeddent yn bwriadu ei gyflawni mewn gwirionedd?