<p>Taflu Sbwriel</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:31, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Nid fy lle i yw egluro i bobl Ynys Môn pam y maent yn newid i gasgliadau sbwriel bob tair wythnos; lle Cyngor Ynys Môn yw esbonio hynny. Fodd bynnag, fe fyddwch yn ymwybodol ei bod hi’n wythnos ailgylchu, ac os yw pobl yn ailgylchu’n gywir, o gofio bod gennym gasgliadau ailgylchu wythnosol—credaf fod gennym stori dda iawn i’w hadrodd am ailgylchu yng Nghymru; ni yw’r bedwaredd wlad orau yn Ewrop—yna efallai na fyddai cymaint o sbwriel yn y biniau du. Ar hynny yr ydym yn canolbwyntio yn awr, oherwydd credwn y byddai modd ailgylchu 50 y cant o’r sbwriel sy’n mynd i’r biniau du.