Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 14 Medi 2016.
Yn sicr, nid ydym am weld cynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ac rwy’n eich canmol am drefnu tasglu sbwriel. Fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod gennym stori dda iawn i’w hadrodd am ailgylchu. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y maent yn trefnu eu casgliadau sbwriel ac ailgylchu a mater i’r awdurdodau lleol hefyd yw sut y maent yn gorfodi’r gyfraith mewn perthynas â sbwriel, gan fod taflu sbwriel yn drosedd. Unwaith eto, rwy’n credu bod angen i ni wneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn gwneud y rhan honno o’u gwaith hefyd.