Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Medi 2016.
Mae fy nghwestiwn yn dilyn o’r ddau gwestiwn a ofynnwyd yn flaenorol mewn gwirionedd. Mae camau i dreialu casgliadau bob pedair wythnos yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn achosi cynnwrf enfawr, gyda llawer o deuluoedd yn poeni bellach sut y maent yn mynd i allu ymdopi. Yn amlwg, mae’r pryderon yn ymwneud â biniau gorlawn a chynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Mae tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn costio £70 miliwn i’r amgylchedd bob blwyddyn. Beth yw eich ymateb i’r cynigion i newid i gasgliadau bob pedair wythnos—y rhai cyntaf yn y DU? Sut rydych yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella cyfradd lwyddiant sydd ond yn 0.2 y cant o ran gorfodi ac erlyn y rhai sy’n euog o dipio’n anghyfreithlon?