<p>Taflu Sbwriel</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:34, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Cyfeiriaf yr Aelod at fy nau ateb blaenorol. Mater i Gyngor Conwy yw penderfynu a yw Cyngor Conwy yn cael casgliadau bob pedair wythnos, bob tair wythnos, neu bob pythefnos. Nid wyf yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dweud wrthynt beth i’w wneud. Mewn perthynas ag awdurdodau lleol a’r 0.2 y cant, fel rwy’n dweud, mae taflu sbwriel yn drosedd a mater i’r awdurdodau lleol yw gwneud yn siŵr eu bod yn defnyddio eu holl bwerau gorfodi.