Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae effeithiau canlyniadol y newidiadau i’r cyfrifiad argaeledd tir ar gyfer tai o dan y TAN1 diwygiedig bellach yn dechrau dod yn amlwg i breswylwyr yng Nghonwy ac ym mhob awdurdod ledled Cymru. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar TAN 1, roedd awdurdodau cynllunio lleol yn gyffredinol yn anghytuno â defnyddio’r fethodoleg weddilliol yn unig ar gyfer cyfrifo’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai—dull sydd, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn brin o realaeth ac yn agored i gael ei wyrdroi gan gyfraddau adeiladu i gynhyrchu canlyniadau afrealistig ac anghyraeddadwy, ac sy’n arwain at golli llawer o’n safleoedd maes glas ar yr un pryd. O ystyried sefyllfa o’r fath, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar hyn yn yr adolygiad o’r cynllun datblygu lleol i awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n dod ym mis Hydref a chynnwys mwy o synnwyr cyffredin yn y broses mewn gwirionedd? Oherwydd, credwch fi, bydd y safleoedd sy’n cael eu cyflwyno yn awr yng Nghonwy yn ddinistriol a bydd colledion enfawr i’n safleoedd maes glas.