Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 14 Medi 2016.
Rwy’n credu eich bod newydd ddweud yn union pam y dylid cael yr adolygiad o TAN 1. Rwy’n credu bod y nodyn cyngor technegol wedi cael ei ddiwygio am nad oedd safleoedd yn dod ar gael ac rwy’n credu ei fod wedi datgelu’r hyn a oedd yn digwydd o’r blaen. Felly, rwy’n credu ei fod yn ymwreiddio yn awr. Mae wedi gosod methodoleg ar gyfer cynnal yr adolygiad. Gellir cymhwyso honno’n gyson ledled Cymru, ac rwy’n credu bod hynny’n rhoi dangosydd allweddol i awdurdodau lleol ar gyfer monitro’r ddarpariaeth dai i ddiwallu’r gofynion a nodir yn eu Cynllun Datblygu Lleol.