Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch. Daeth y cynlluniau datblygu strategol o’r Ddeddf gynllunio, fel y dywedoch, er mwyn ceisio annog awdurdodau lleol i weithio’n llawer agosach yn drawsffiniol. Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw’n ymddangos bod llawer o drafod rhwng awdurdodau lleol, ar wahân i’r 10 awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru mewn perthynas â’r cytundeb dinas—rwy’n credu bod hynny’n rhan o’u trafodaeth yn ei gylch. Felly, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol i weld beth arall y gallwn ei wneud i annog trafodaethau ynglŷn â chynlluniau datblygu strategol.