Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 14 Medi 2016.
Mae angen cynyddu’r cyflenwad tai yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae angen i’r tai hynny fod y math iawn o dai, ac mae angen iddyn nhw fod yn y llefydd iawn er mwyn diwallu gwir anghenion pobl Cymru. Yn eich datganiad chi ar y Ddeddf gynllunio yng Ngorffennaf eleni, gwnaethoch chi ddweud:
‘Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi blaenoriaeth uchel i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn yr ardaloedd hynny lle mae rownd gyntaf y Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’u cwblhau a lle ceir meysydd a fyddai’n elwa o gael eu hystyried dros ardal ehangach nag ardal un Awdurdod.’
A ydw i’n darllen i mewn i hynny, felly, eich bod chi rŵan yn gweld bod angen adfer cydbwysedd yn y system gynllunio leol, lle yn aml mae’r tafluniadau poblogaeth wedi cael eu chwyddo allan o bob rheswm ac wedi arwain at ddatblygiadau niweidiol, i ddechrau yn ein cymunedau dinesig ni oherwydd gormodedd o safleoedd tir glas yn gorfod cael eu defnyddio ac, yn ail, yn y cymunedau Cymraeg, lle mae bygythiad i’r cydbwysedd ieithyddol?