Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod yr amgylchedd ar garreg y drws, fel y’i gelwir, o bwys mawr iawn i lawer o bobl yng Nghymru, o ystyried nifer y bobl sy’n byw yn yr amgylcheddau penodol hynny. Os ydynt yn teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’u hamgylchedd ac yn ei ystyried yn amgylchedd o ansawdd, rwy’n credu eu bod yn llawer mwy tebygol o fod â diddordeb yn yr amgylchedd yn gyffredinol ac o gymryd rhan, ac mae hynny’n golygu perfformiad ailgylchu da, er enghraifft. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrth y Siambr, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd gwaith Cynefin er enghraifft, a lwyddodd, yn fy marn i, i wneud llawer o waith da mewn perthynas â’r amgylchedd ar garreg y drws, yn cael ei ddatblygu wrth i ni symud ymlaen o gofio nad yw’r cynllun penodol hwnnw’n bodoli mwyach?