Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Medi 2016.
Ie, diolch. Roedd y rhaglen Cynefin yn treialu ffordd newydd, rwy’n credu, o gynnwys cymunedau yn y rhaglenni a’r gwasanaethau cyflenwi lleol a oedd wedi’u llunio i fod o fudd iddynt. Rydym bellach wedi ymestyn ein contract gydag Asiantaeth Ynni Hafren Gwy am gyfnod o 12 mis er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen cymorth cyflenwi ledled Cymru a fydd yn adeiladu ar y dysgu a’r arbenigedd a ddatblygwyd gyda rhaglen Cynefin. Rwy’n credu bod yn rhaid lledaenu’r momentwm a welsom gyda rhaglen Cynefin drwy ddylanwad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae’n rhaid i’r momentwm hwnnw barhau. Rydym bellach yn gweithio gyda’r comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ledaenu arfer gorau ymhellach wrth gynnwys cymunedau.