Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 14 Medi 2016.
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o fanteision creu coetiroedd o ran bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, lliniaru llifogydd, dal carbon a chymaint mwy o’n systemau naturiol pwysig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol, ond rwy’n meddwl tybed a yw hi wedi cael amser i fyfyrio ar ei hymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi—30 hectar o dir wedi ei adfer o hen olchfeydd Maesteg a phwll glo Coegnant, a choetir gweithredol sydd ag ymgysylltiad aruthrol gyda’r gymuned leol. Nid y coetiroedd collddail a blannwyd a’r perllannau a’r harddwch naturiol yw’r unig bethau sy’n diffinio’r coetir, ond y ffaith ei fod wedi ei leoli yn un o’r ardaloedd lle mae’r ymyriadau sydd wedi eu targedu fwyaf ym maes iechyd ac addysg a materion eraill yn digwydd. Onid yw’n iawn fod cynllun gweithredu coetiroedd, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn golygu bod angen i ni weld y coed cywir yn y mannau cywir, ac mae hynny’n golygu eu plannu yn agos at gymunedau fel hyn?