Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Medi 2016.
Ydy, yn hollol. Mwynheais fy ymweliad yn fawr iawn, er gwaethaf y glaw trwm ar y diwrnod hwnnw ym mis Awst. Yr hyn a oedd yn fy nharo am y cynllun oedd yr holl weithio mewn partneriaeth yn y gymuned, o’r sefydliadau amgylcheddol i’r ysgolion a phobl leol yn galw draw i helpu. Roedd gweld y miloedd o goed a blannwyd ganddynt yn wirioneddol wych.