Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 14 Medi 2016.
Credaf fod yr Aelod yn iawn, a’r hyn sydd angen inni ei wneud, a’r hyn rydym wedi ei wneud mewn nifer o ardaloedd, o ran y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, yw edrych ar ddarpariaeth gofleidiol ar gyfer y teulu—nid y plant yn unig, ond rhieni a gwarcheidwaid hefyd—ac ystyried yr anghenion gwirioneddol. Cefais fy meirniadu yn ddiweddar am rai camau a gymerais mewn perthynas â Teuluoedd yn Gyntaf o ran peth o’r gwaith mwy uniongyrchol ynglŷn â sut rydym yn cefnogi teuluoedd, lle rydym wedi diddymu rhywfaint o’r buddsoddiad ariannol mewn perthynas â hynny a’r sylfaen wybodaeth. Rwy’n awyddus iawn i sicrhau’r Aelodau mai fy mlaenoriaeth yw gwneud yn siŵr fod gennym fecanwaith cymorth mewn perthynas â’r teulu, a beth bynnag yw’r problemau, gallwn eu cyfeirio a’u cynorthwyo i symud ymlaen i’r—. Mae’n ymwneud â chysylltiad ataliol yn hytrach nag ymateb i deulu neu unigolyn sydd mewn argyfwng yn hwyrach yn y dydd.