<p>Tlodi Plant yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:44, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Aberafan rai o’r lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru. Mewn un ward, mae bron i 46 y cant o’r plant yn byw mewn tlodi. Roedd adroddiad blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar Gyflwr y Wlad yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oeddent yn cael y lefel gywir o effaith. O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020, pa newidiadau y gallwch eu cynnig i drechu tlodi plant yn fy rhanbarth dros y tair blynedd nesaf? Diolch.