Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 14 Medi 2016.
Rydych yn hollol gywir. Rwy’n cytuno, ac wrth gwrs, mae gennym y porthladdoedd dwfn, a’r Hafan yn Sir Benfro yn ogystal, lle gellir mynd â gwaith adeiladu allan i’r môr ar unwaith heb y buddsoddiad DU oedd ei angen yn y gogledd-ddwyrain. Câi hwnnw ei weld fel datblygiad rhanbarthol, ond roedd hefyd yn agor môr y gogledd i ynni gwynt ar y môr, ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rwy’n credu bod honno’n enghraifft dda iawn, ac mae unrhyw bwysau y gellir ei roi yn awr yn y pythefnos hollbwysig nesaf i sicrhau bod y morlyn llanw yn cael ei weld fel potensial enfawr i Gymru—. Gallwn arwain y byd, unwaith eto, ym maes ynni, ynni adnewyddadwy, a hoffwn weld y cyfle hwn—pa un a ydym ei eisiau ai peidio, dyma ein cyfle i’w ddefnyddio i ail-ffurfio ein cenedl yn y ffordd honno.
Mae’r ail agwedd yn ymwneud ag amaethyddiaeth a’r amgylchedd, a beth bynnag roeddem yn ei feddwl yn y gorffennol o’r rheolau Ewropeaidd ar amaethyddiaeth, gwelwyd tueddiad clir dros y 10 mlynedd diwethaf i symud o gefnogi talu am gynhyrchu bwyd i sefyllfa lle rydym yn cefnogi’r amgylchedd cyfan a chynhyrchu a phrosesu bwyd fel rhan o hynny. Yn hytrach na mynd drwy broses o ail-lunio ein rhaglenni bob pump neu chwe blynedd fel y crybwyllodd Llyr Gruffydd, dyma gyfle inni gael golwg lawer iawn yn fwy hirdymor ar sut y gallwn ddefnyddio’r adnoddau hyn yn awr i gefnogi ein cymunedau gwledig, ond hefyd i gynhyrchu bwyd yn fwy effeithiol, yn fwy cynaliadwy ac yn wir, yn fwy cynhyrchiol yn amgylcheddol. Yn sicr, mae Plaid Cymru yn ymgynghori â’n cymunedau ffermio ar hyn o bryd, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y syniadau yn ymuno â ni i wneud hynny.
Yr allwedd i’r ffordd y symudwn ymlaen yw’r cwestiwn sy’n dal heb ei ddatrys sef a ydym yn cael rhyw fath o fynediad i’r farchnad sengl drwy ryw fath o drefniant masnach rydd, a allai gynnwys tariffau, neu aelodaeth o’r farchnad sengl. Crybwyllodd Adam Price ein bod wedi cael o leiaf dri pholisi gwahanol. Gofynnais i Ysgrifennydd yr amgylchedd yn y pwyllgor y bore yma pa bolisi oedd gan y Cabinet mewn gwirionedd, ac rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud nad oes gan y Cabinet unrhyw bolisi. Nid oes gan y Cabinet bolisi o gwbl ynglŷn ag aelodaeth, neu fynediad neu beth bynnag. Nawr, gallwn weld ei bod yn adeg anodd, ac yn adeg ansicr, ond rwy’n credu bod angen inni gael gweledigaeth, ac rwy’n credu bod angen inni weld Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir iawn lle mae am i Gymru fod. Mae Plaid Cymru yn glir ac rwy’n gwbl glir; yn y tymor hir, rwyf am i Gymru fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, oherwydd rwyf am i Gymru fel gwlad annibynnol gymryd rhan o’i gwirfodd mewn undeb o wledydd eraill yn gweithio gyda’i gilydd dros yr amgylchedd, a thros gymdeithas a thros yr economi. Os nad yw hynny’n digwydd yn awr—ac rwy’n derbyn canlyniad y refferendwm wrth gwrs—ond os nad yw’n digwydd yn awr, yna pa gamau rydym yn eu rhoi ar waith i ddiogelu Cymru yn y cyfamser, a sicrhau mynediad, sy’n hanfodol, i’r farchnad sengl honno ar gyfer ein ffermwyr?