Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 14 Medi 2016.
Rydym wedi siarad llawer y prynhawn yma am strategaeth economaidd, a dymunaf yn dda i Ysgrifennydd y Cabinet gyda datblygu strategaeth economaidd newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Rwy’n credu ein bod mewn cyfnod sy’n unigryw o heriol, ac rwy’n credu ei bod yn adeg amserol i ni edrych ar y strategaeth economaidd yn gyffredinol. Felly, rwy’n dymuno’n dda iddo gyda hynny, ac rwy’n ei gymeradwyo, mewn gwirionedd, am geisio mewnbwn gan bobl Cymru ar eu blaenoriaethau economaidd ar gyfer y dyfodol. Gwn fod yna ysgol o feddwl sy’n ffafrio strategaeth economaidd gyda datganiadau rhethregol o sicrwydd, ond nid wyf yn meddwl ein bod yn y diriogaeth honno yn y byd ar hyn o bryd. Ac rwy’n gwybod, o sgyrsiau ar draws y tŷ, y bydd llawer ohonom yn ceisio cynnal ymgynghoriadau yn ein hetholaethau ynghylch y blaenoriaethau hynny i fwydo i mewn i’r strategaeth, a chredaf fod hynny’n beth cadarnhaol i bob un ohonom.
O ran y cwestiwn ynglŷn â mewnfuddsoddiad, byddaf yn adleisio’r hyn a ddywedwyd sawl gwaith gan Ysgrifennydd y Cabinet a’r Prif Weinidog am werthu Cymru i’r byd. Yn amlwg, mae’n hanfodol i ni gyfleu ar hyn o bryd ein bod yn economi agored, sy’n masnachu ac yn edrych tuag allan, ac mae hynny’n gwbl sylfaenol i lwyddiant yr economi yn y dyfodol. Yn amlwg, bydd sut y bydd hynny’n datblygu yn dibynnu ar y berthynas fydd gennym yn y pen draw gyda’r farchnad sengl Ewropeaidd. Ond hoffwn ddweud, yn ychwanegol at y ffocws hwnnw ar fewnfuddsoddi, rwy’n meddwl bod angen i ni edrych hefyd ar y cymorth a rown i’n heconomïau sylfaenol yng Nghymru—y sectorau lle mae galw ar gynnydd, sydd wedi eu lleoli yn ein cymunedau, sy’n llai symudol yn rhyngwladol, efallai, ac sy’n cynnig ac yn gallu parhau i gynnig cyflogaeth i lawer iawn o filoedd o bobl yn ein cymunedau, os maddeuwch fy obsesiwn gyda swyddi am y tro. Y sectorau hynny yw gofal, tai, ynni a bwyd. Rwy’n meddwl bod angen i ni hefyd wneud yn siŵr fod ein polisi yn mynd i’r afael ag anghenion y sectorau hynny. Bydd hynny’n gofyn am benderfyniadau concrid o ran polisi yn y misoedd nesaf. Er enghraifft, sut rydym yn ariannu rhai o’r 100,000 o brentisiaethau rydym yn edrych arnynt? Ar gyfer pa sectorau rydym am dargedu’r cymorth hwnnw? Felly, mae cwestiynau polisi go iawn ynghylch hynny.
Buaswn hefyd yn cymeradwyo’r gwaith sy’n mynd rhagddo mewn perthynas â’r comisiwn seilwaith cenedlaethol. Mae’n ymddangos i mi mai un o’r pethau pwysig yn y byd ar ôl gadael yr UE rydym yn anelu tuag ato yw ein bod yn cael ein hysbrydoli gan, ac yn wir, yn cymharu â gwledydd nid yn unig yn Ewrop, ond y tu hwnt i Ewrop yn ogystal. Felly, byddwn yn gobeithio y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried cyfeirio at y comisiwn hwnnw unigolion sydd â phrofiad sylweddol o seilwaith, nid yn unig yn y DU ac nid yn unig yn Ewrop, hyd yn oed, ond y tu hwnt i hynny hefyd.
Hoffwn ddweud un peth i gloi, sef am y gefnogaeth—. Bydd llawer o bobl a gefnogodd y penderfyniad i adael yr UE wedi gwneud hynny gan ei ystyried yn gyfle i dorri’n ôl ar rai o’r hawliau gweithle gwerthfawr sydd gennym yn rhinwedd ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Yr Undeb Ewropeaidd yw ffynhonnell llawer o hawliau y mae gweithwyr yng Nghymru yn eu hystyried yn gwbl sylfaenol. Maent yn llwyfan i arferion gweithio modern, i gefnogi bywyd teuluol a chyfyngu ar wahaniaethu, ac rwy’n gobeithio nad ydym yn gweld pwysau ar draws y DU i symud oddi wrth setliad sy’n diogelu’r gweithlu yng Nghymru ac rwy’n gobeithio ac yn disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo economi ar ôl gadael yr UE, os mynnwch, sydd â gweithlu medrus, cynhyrchiol yn ganolog iddi.