Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 14 Medi 2016.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig yma ac rwy’n talu teyrnged yn y lle cyntaf i’r sawl sydd wedi siarad eisoes. Roedd Adam Price wedi agor yn arbennig o dda yn olrhain y tirlun sydd gyda ni rŵan wedi, wrth gwrs, y bleidlais sylweddol yna a chawsom yn ddiweddar ac sydd wedi symud popeth. Hynny yw: Brexit.
Mae yna her sylweddol o’n blaenau ni i gyd. Mae yna sawl un wedi olrhain yr her yna, ond yn sylfaenol rydym eisiau ymateb gyda hyder ac y mae gofyn i Gymru fynd amdani yn wir ac ymdrechu i’r eithaf i wneud y gorau o lle rydym ni’n ffeindio ein hunain ar hyn o bryd ac nid jest cario ymlaen i alaru am ganlyniad yr oeddem ni ddim o reidrwydd yn ei hoffi.
Mae gofyn bod yn anturus ac yn uchelgeisiol ac, wrth gwrs, ar y meinciau hyn, rydym wedi olrhain y mesurau yna y byddem ni’n licio eu gweld. Rwy’n cymeradwyo Nick Ramsay yn benodol hefyd. Roedd ei gyfraniad e yn dda iawn, a hefyd, wrth gwrs, Jeremy nawr yn sôn am y comisiwn seilwaith yna yn arbennig. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni gael comisiwn seilwaith efo dannedd go iawn i fynd i’r afael â’r her sylweddol sydd o’n blaenau ni. Mae angen comisiwn seilwaith sydd yn gallu gwneud pethau; nid rhyw fath o bwyllgor ymgynghori, ond corff sydd yn gallu benthyg, sydd yn gallu cynllunio ac sydd yn gallu trefnu ac yn gallu mynd amdani i fynd ar ôl y seilwaith yma rydym ni i gyd eisiau ei weld o ran trafnidiaeth a materion gwyrdd ac yn y blaen, fel sy’n cael ei nodi yn ein cynnig ni.
Roeddwn i jest yn mynd i siarad yn fyr am y rhan o’n cynnig ni sydd yn sôn am godi lefelau caffael ar gyfer busnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’n deg i nodi, fel y mae rhai eisoes wedi’i nodi—Nick Ramsay yn bennaf—ein bod ni wedi cael sawl trafodaeth dros y blynyddoedd ar gaffael cyhoeddus yn y lle hwn. Rydym i gyd yn cytuno ei fod yn syniad gwych i ni allu codi lefelau o gaffael cyhoeddus sy’n cael ei benodi i gwmnïau sydd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’n gwneud synnwyr cyffredin, ac eto, rydym ni’n llai na llwyddiannus yn gwireddu’r dyhead yna achos, yn wir, yn y dyddiau ‘potentially’ anodd yma sydd o’n blaenau ni rŵan, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â phob arf sydd gyda ni. Mae gwir angen codi lefelau caffael cyhoeddus i gwmnïau yma yng Nghymru. Pan fyddwch chi’n edrych ar economi Cymru ar hyn o bryd, 25 y cant o’n cyfoeth ni sydd yn dod o’r sector preifat. Mae 75 y cant o gyfoeth Cymru yn dod o’r sector gyhoeddus. Mae angen dybryd i wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.
Ac, wrth gwrs, mae defnyddio’r sector gyhoeddus yn fodd hawdd iawn i helpu hynny. Ar hyn o bryd, o ran y sector gyhoeddus yn ein llywodraeth leol ni, lle maen nhw ishio darparu bwyd i ysgolion, ysbytai ac yn y blaen, mae lefel y caffael ar hyn o bryd dros 50 y cant i’r sector breifat. Felly, mae’r sector gyhoeddus yn gwneud ei siâr o ran helpu’r sector breifat, ond mae angen gwneud mwy. Mae yna ryw 98,000 o swyddi ar hyn o bryd yng Nghymru yn deillio o’r ffaith bod dros 50 y cant o’r cytundebau caffael yma efo cwmnïau yng Nghymru. Ond mae angen codi’r lefel yna o 55 y cant i 75 y cant, a dylem ni allu gwneud hynny wrth feddwl yn anturus ac yn glyfar ynglŷn â sut rydym yn setio’n cytundebau—efo cwmnïau llai, fel y mae Nick Ramsay wedi sôn, ac nid wastad yn mynd am y cwmnïau mawrion, ac, wrth gwrs, mynd ar ôl y meddylfryd bod hybu’r economi’n lleol yma yng Nghymru yn bwysig, bod edrych ar ôl safonau cymdeithasol yma yng Nghymru yn bwysig, ac, wrth gwrs, yn amgylcheddol, mae’n gwneud synnwyr cyffredin i gadw ein busnesau yma yng Nghymru.
Mae pob math o resymau call, synhwyrol dros godi lefel caffael cyhoeddus yma yng Nghymru, ac mae gennym gyfle nawr i ddefnyddio rheolau, efallai, sydd ddim wedi cael eu defnyddio’n aml. Ond mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hwn, achos mae yna her sylweddol o’n blaenau. Achos, ar ddiwedd y dydd, mae gwerth am arian yn golygu, yn fy nhyb i, fwy na mynd jest am y pris isaf bob tro. Diolch yn fawr.