<p>Gwella Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:30, 20 Medi 2016

Brif Weinidog, mae rheoli meddygfa Wdig yn y fy etholaeth i wedi cyflwyno heriau sylweddol ers peth amser bellach, ac mae wedi arwain at herio o ran recriwtio, ac, ar adegau, mae mynediad i gleifion wedi bod yn broblem go iawn. O ystyried bod rhaglen lywodraethu eich Llywodraeth yn ymrwymo i barhau i wella mynediad ar feddygfeydd, pa gymorth y gall, a bydd, eich Llywodraeth chi yn ei gynnig i gymuned fel Wdig i ddod o hyd i ateb mwy sefydlog ar gyfer eu meddygfa leol?