<p>Gwella Gwasanaethau Iechyd yn Sir Benfro</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:31, 20 Medi 2016

Un o’r pethau rydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod ymgyrch i dynnu mwy o feddygon teulu i mewn i Gymru—bydd hynny’n dechrau fis nesaf—ac, wrth gwrs, i ystyried ym mha ffordd y gall meddygfeydd weithio mewn ffordd gynaliadwy yn y pen draw. Dyletswydd meddygfeydd yw recriwtio yn y lle cyntaf, achos maen nhw’n annibynnol, ond mae yna gymorth iddyn nhw o’r byrddau iechyd er mwyn iddyn nhw recriwtio yn y pen draw. Ond nod y Llywodraeth yw sicrhau bod mwy a mwy o feddygon teulu eisiau dod i Gymru i weithio.