Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 20 Medi 2016.
Wel, rwy’n synnu o glywed arweinydd Plaid Cymru yn disgrifio'r polisïau sydd wedi'u cynnwys yn y ddogfen hon fel ‘ystrydebau’. Mae gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn addewid allweddol ym maniffesto Llafur; gostwng treth ar gyfer busnesau bach—addewid allweddol ym maniffesto Llafur; banc datblygu ar gyfer Cymru—roedd y ddau faniffesto yn cefnogi hynny; cronfa driniaeth newydd ar gyfer afiechydon sy’n peryglu bywyd—addewid allweddol ym maniffesto Llafur; cynyddu'r terfyn cyfalaf i bobl sy'n mynd i ofal preswyl—addewid allweddol ym maniffesto Llafur; a 100,000 o brentisiaethau o safon ar gyfer pob oedran—addewid allweddol ym maniffesto Llafur. Nawr, mae materion yma, wrth gwrs, nad oedd yn ein maniffesto ac sy'n adlewyrchu'r trafodaethau yr ydym wedi'u cael gyda’i phlaid. Ond, nid yw’n briodol o gwbl dweud ein bod ni, rhywsut, wedi dod i’r trafodaethau heb unrhyw syniadau, o ystyried y ffaith bod ein maniffesto yn llawn dop ohonynt a bod y syniadau hynny wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu hon, ochr yn ochr â rhai eraill, wrth gwrs.
O ran yr awgrym ei bod yn rhestr o ddymuniadau, nid rhestr o ddymuniadau ydyw hi. Yn 2011-16, gwnaethom gyflawni pob addewid a wnaethom—pob addewid a wnaethom. Roedd pobl yn gwybod hynny ar garreg y drws ac roeddynt yn gwerthfawrogi hynny ar garreg y drws. O ganlyniad, roeddem yn awyddus i lunio rhaglen lywodraethu nad oedd yn llunio rhestr ddymuniadau o addewidion na ellid eu cyflwyno ac na ellid talu amdanynt, ond yn hytrach roeddem am gael addewidion ar waith y gellid talu amdanynt. Dyna pam y cymerodd tan yr haf i ni ystyried beth fyddai'r sefyllfa ar ôl Brexit, i wneud yn siŵr y gallem fod yn sicr ac y gallem ddweud wrth bobl Cymru y gallem gyflawni'r addewidion hyn hyd yn oed gyda Brexit. Ni allwn gael dogfen sydd ond yn sôn yn bennaf neu'n gyfan gwbl am Brexit. Mae pobl yn gwybod bod hynny’n digwydd; mae'n hynod bwysig yn awr ein bod yn mynd ati i gyflawni dros y bobl yn unol â’r hyn y mae’r maniffestos wedi ei ddweud. Mae pobl am wybod beth sy'n mynd i ddigwydd o ran iechyd ac addysg, maent yn awyddus i wybod beth sy'n mynd i ddigwydd o ran tai—ac mae 20,000 yn fwy o dai yn mynd i gael ei darparu, wrth gwrs—ac maent yn awyddus i wybod y bydd y Llywodraeth sydd mewn grym yn cyflawni’r addewidion a wnaeth, ac rydym wedi gwneud yr union beth hynny.
O ran yr economi, wel, mae gennym ni yng Nghymru'r lefelau isaf o ddiweithdra o blith Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Mae gennym y lefelau isaf. Mae gennym y diweithdra ieuenctid isaf, ac mae gennym y ffigurau buddsoddiad tramor uniongyrchol gorau ers 30 mlynedd. Mae'r rhain yn cael eu cyflawni trwy waith caled. Nid yw pobl yn dod i Gymru oni bai eich bod yn mynd allan ac yn gwerthu eich hunan o gwmpas y byd. Pan ddes i’n Brif Weinidog, roedd llawer o'r gweithrediadau tramor wedi eu cau i lawr, rhaid i mi ddweud. Roedd llawer o'r swyddfeydd wedi mynd, ac nid oedd unrhyw weithgarwch tramor go iawn. Roedd yn rhaid ailadeiladu hynny. Ac rydym yn gweld yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i hynny. Rydym yn gweld y gwaith sydd wedi ei wneud gyda chyflogwyr fel Aston Martin, sydd wedi dod i Gymru oherwydd—a’u geiriau nhw yw’r rhain—angerdd a phroffesiynoldeb Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i chi fynd allan ac ymladd am y cyfleoedd hyn.
Pan ddaw i gymunedau gwledig, byddwn, byddwn ni yn cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig. Un enghraifft y gallaf ei rhoi yw band eang. Erbyn haf y flwyddyn nesaf, bydd 96 y cant o safleoedd yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn. Ni fyddai hynny wedi digwydd heblaw am y ffaith bod arian wedi ei darparu o’r pwrs cyhoeddus er mwyn gwneud i hynny ddigwydd, oherwydd ni fyddai'r farchnad erioed wedi gwneud hynny. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi cyflwyno band eang i lawer iawn o gymunedau na fyddai byth wedi ei gael fel arall, ac rydym yn falch o hynny.
O ran rhai o'r materion eraill a godwyd ganddi, rydym yn fwy na hapus â’n haddewid o £100 miliwn ar gyfer addysg. Byddwn yn parhau i adeiladu ysgolion ledled Cymru, hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu hadeiladu yn Lloegr. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn addysg, o ran adeiladau, ie, ond hefyd o ran y gweithlu.
Rydym wedi gweld mwy a mwy o feddygfeydd teulu yn aros ar agor gyda’r nos, a rhai ar benwythnosau. Mae angen i ni weld cynnydd pellach o ran y penwythnosau, mae hynny’n wir. Ond, yr hyn sydd gennym yma yw rhaglen lywodraethu sy'n strategol, y mae’n bosibl ei chyflawni, sy'n fforddiadwy ac yn un y gwnaethom ni fel plaid sefyll yr etholiad ar ei sail hi ac, wrth gwrs, rydym wedi ymestyn allan at bleidiau eraill er mwyn llunio’r rhaglen lywodraethu hon gyda’n gilydd. Byddwn yn parhau i weithio gyda phawb sydd am gefnogi Cymru a chyflawni'r gorau ar gyfer ein gwlad, ac mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r trafodaethau sydd wedi eu cynnal.