Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 20 Medi 2016.
Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae braidd yn dorcalonnus gweld bod grym deallusol cyfunol Plaid Cymru, Plaid Lafur Cymru a'r Rhyddfrydwyr wedi llunio dogfen sydd yn ddim mwy na 15 o dudalennau o hyd, ac mae hynny'n cynnwys y clawr blaen. Nid yw pymtheg o dudalennau ar gyfer gwerth pum mlynedd o lywodraeth yn eich llenwi chi â hyder, rhaid i mi ddweud. Yn amlwg, mae'n llai o lawer na'r 666 o dudalennau y cyflwynodd y Llywodraeth Cymru flaenorol, yr oedd ef yn Brif Weinidog arni, y tro diwethaf iddynt gyflwyno rhaglen lywodraethu. Ond rwyf wirioneddol yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn llwyddo. Efallai ei bod yn rhyfedd i chi glywed hynny gan arweinydd yr wrthblaid, ond, yn y pen draw, os nad ydych chi’n llwyddo, y bobl a'r cymunedau ar hyd a lled Cymru a fydd ar eu colled yn y pen draw. Felly, mae pobl yn mynd i bleidleisio, maent yn pleidleisio ac mae'r Cynulliad hwn yn cynnull. Ond mae hi braidd yn dorcalonnus a dweud y lleiaf—mae'n dorcalonnus a dweud y lleiaf—mai hon yw ymdrech orau Llywodraeth Cymru i lunio rhaglen lywodraethu bum mlynedd pan ddywedwyd wrthym fod angen iddynt dreulio haf yn myfyrio—myfyrio—ar eu blaenoriaethau.
A dweud y gwir, pan fyddwch yn edrych ar yr hyn a gyflawnwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y Cynulliad diwethaf, a’i bolisi blaenllaw oedd comisiwn Williams, a oedd yn mynd i ad-drefnu llywodraeth leol, ac roedd ef yn mynd i fwrw ymlaen â’r agenda hon a diwygio’r map llywodraeth leol yng Nghymru, ni waeth beth yr oedd pobl yn meddwl am hynny, mae'n dangos cyfyngiadau'r Prif Weinidog hwn o ran ei allu i fwrw ymlaen â newid a bwrw ymlaen â rhaglen lywodraethu. Ac mae hwnnw’n wendid, yn wendid gwirioneddol o ran unrhyw beth yn y ddogfen hon, gan fod y Prif Weinidog wedi profi yn ystod ei dymor cyntaf nad yw’n gallu cyflawni dros bobl Cymru nac, yn wir, y comisiynau a’r gweithrediadau y mae’n eu sefydlu. Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn gweithio’n wirioneddol galed yn ystod y tymor hwn a’i fod yn wirioneddol gyflawni'r newidiadau a fydd yn gwella bywydau pobl, boed hynny mewn addysg, boed hynny yn yr economi neu boed hynny yn y GIG.
Rwy’n gobeithio, wrth ymateb i'r cwestiynau y byddaf yn eu holi iddo, y bydd yn gallu cadarnhau y bydd y rhaglen lywodraethu hon, erbyn diwedd 2021, yn sicrhau bod system addysg Cymru yn sicrhau safle uwch na system addysg Fietnam, sef y safle lle'r ydym ni wedi ein rhestru ar hyn o bryd yn y tablau cynghrair. Felly, a wnaiff ef gadarnhau bod y mentrau addysg—gwn nad yw’n nod rhagorol i anelu ato, ond a wnaiff ef roi targed i ni y byddwn uwchben Fietnam pan ddaw at 2021? O ran yr economi, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y rhaglen lywodraethu hon, erbyn 2021—y rhaglen lywodraethu hon—yn ein gwneud yn fwy ffyniannus yn economaidd na rhannau o Rwmania a Bwlgaria, sef lleoedd yr ydym yn cyfateb iddynt ar hyn o bryd, ac mae hynny ar ôl 17 mlynedd o Lafur Cymru yn y Llywodraeth yma? A wnaiff ef, ar ddiwedd y cyfnod hwn yn 2021, gadarnhau y bydd y rhaglen lywodraethu hon yn cyflawni GIG na fydd â’r amseroedd aros hwyaf o unrhyw GIG yn y Deyrnas Unedig? Dyna yw’r tri chwestiwn syml yr wyf yn gobeithio y bydd yn gallu ymateb iddynt a dweud, ‘Ie, ie, ie’, fel ein bod, yn 2021, yn gallu ei feincnodi ef o’i gymharu â pherfformiad ei Lywodraeth.
Ond rwyf yn meddwl mai’r un peth sy’n arwydd damniol o 17 mlynedd o fethiant Llafur yw bod y ddogfen hon, sy’n sôn am gyflwyno cronfa driniaeth newydd, pan wnaethom dreulio'r Cynulliad diwethaf i gyd yn gwneud y pwynt am gronfa cyffuriau canser a’r gallu i gael meddyginiaethau yma yng Nghymru. Mae'r ddogfen ei hun, ar ôl 17 mlynedd Lywodraeth Lafur, yn sôn am
‘loteri cod post ar gyfer cyffuriau a thriniaethau nad ydynt ar gael fel mater o drefn gan y GIG' yng Nghymru. Rydych chi wedi bod yn gyfrifol am y GIG ers 17 mlynedd, Brif Weinidog. Eich plaid chi sydd wedi creu'r loteri cod post hwnnw ar gyfer cael meddyginiaethau ledled Cymru. Felly, pan fyddwn yn edrych ar y rhaglen lywodraethu hon, gallwn weld yn glir nad oes unrhyw newid gwirioneddol, wrth gwrs, dim newid cyfeiriad gwirioneddol, dim ond mwy o'r un peth. Ac rwy’n gobeithio, yn y pen draw, y bydd y Prif Weinidog yn mynd i'r afael â'r sefyllfa ac yn dechrau cyflawni yn economaidd, yn addysgol ac ar gyfer ein GIG fel nad yw pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi eto ar ddiwedd y pumed Cynulliad hwn.