Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw, sydd i'w groesawu'n fawr. Ymddengys bod y ddeddfwriaeth hon wedi dioddef o ddiffyg diddordeb ac uchelgais ar ran y Llywodraeth, gan achosi, dylwn i ddweud, rwystredigaeth ymhlith prif gefnogwyr y Ddeddf hyd yn oed. Gwnaeth pedwerydd Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad nifer o argymhellion yn ystod ei waith craffu ôl-ddeddfwriaethol cynnar ar y ddeddfwriaeth ym mis Chwefror eleni. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y mae'r Llywodraeth wedi gweithredu argymhellion y pwyllgor. Yn gyntaf, nodwyd gan gydweithwyr fod y gwaith o weithredu’r ddeddfwriaeth yn cael ei rwystro gan ddiffyg cyllid ac adnoddau pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, er mwyn iddynt allu cyflawni amcanion canmoladwy’r Ddeddf. Dywedodd rhagflaenydd y Gweinidog o'r blaen nad oedd Llywodraeth Cymru yn derbyn y rhesymeg ar gyfer ystyried cyllid trafnidiaeth ar ei ben ei hun. Nawr, ers i chi gael eich penodi i'ch swydd newydd, a ydych chi wedi ailystyried dyrannu cronfa bwrpasol yn benodol ar gyfer teithio llesol? Ymddengys hefyd fod diffyg amlwg o ran gweithgarwch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. A allech chi felly o bosib amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â phryderon y pwyllgor o ran hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r Ddeddf?
Rydych wedi sôn hefyd heddiw eich bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'ch Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi i sicrhau y dylai prosiectau seilwaith mawrion megis y metro a’r fargen ddinesig ganiatáu ar gyfer darpariaethau teithio llesol. Felly, a allwch chi amlinellu pa fesurau penodol sydd wedi’u datblygu yn hynny o beth? Yn olaf, o ystyried bod y Ddeddf yn sail i gynifer o agendâu polisi trawsbynciol holl adrannau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys strategaeth 'Cael Cymru i Symud' a strategaeth 'Dringo'n Uwch: Creu Cymru Egnïol', a wnewch chi amlinellu sut yr ydych chi’n sicrhau bod y Ddeddf teithio llesol yn cael ei gweithredu ar draws y Llywodraeth?