Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 20 Medi 2016.
Rwy’n diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuaf gyda’r cwestiwn a godwyd gennych chi ynglŷn â chynllunio, a sut yr ydym ni’n sicrhau bod cynllunio yn galluogi teithio llesol. Rwy’n ystyried nawr sut y gallem wneud diwygiadau i'r polisi a chanllawiau cynllunio i roi mwy o bwyslais ar deithio llesol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn i’n gweithio gyda chydweithwyr arno hefyd. Byddech chi wedi clywed sylwadau’r Prif Weinidog heddiw o ran teithio llesol. Roedd ei gefnogaeth iddo yn glir iawn, sy’n golygu y dylem ni, wrth feddwl am adeiladu ffyrdd newydd, feddwl yn yr un modd am adeiladu llwybrau beicio newydd ac yn y blaen, hefyd. O ran cyllid, nid wyf yn credu y dylem ni edrych ar gyllid ar gyfer teithio llesol ar wahân oherwydd y nod yw ei integreiddio i’r ffordd arferol yr ydym yn teithio, a dylid ystyried gwneud teithiau byrion ar droed neu ar feic yn bethau i'w gwneud yn arferol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen cyllid penodol i gefnogi gweithrediad y Ddeddf. Felly, rydym wedi rhoi yn flaenorol gyfran o £300,000 i awdurdodau lleol tuag at gynhyrchu eu map llwybrau presennol a pharatoi’r gwaith yno. Hefyd, cafodd £200,000 o arian cyllido trafnidiaeth leol ei neilltuo'n benodol ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â’r cyfnod o’r broses ar gyfer creu map rhwydwaith integredig. Rydych chi yn llygad eich lle wrth ddweud bod ymgysylltu yn gwbl allweddol o ran sut yr ydym yn datblygu hyn, a chael sgwrs gyda'r cyhoedd am y llwybrau y maent yn dymuno eu cael ac y maent eu hangen, gan y bydd hynny mewn gwirionedd yn hanfodol ar gyfer llwyddiant y rhaglen hon.
Byddaf yn disgwyl i’n bwrdd teithio egnïol gymryd cam arweiniol gwirioneddol yn hyn o beth, ac mae hyn yn cynnwys adrannau allweddol y Llywodraeth a phartneriaid allanol, Adnoddau Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau’r trydydd sector a chynrychiolwyr busnes hefyd. Bydd ganddynt swyddogaeth, rwy'n siŵr, o ran bod yn atebol, wrth gyflwyno'r Ddeddf, ond hefyd o ran bod yn eiriolwyr ar gyfer y Ddeddf. Lansiais yn ddiweddar, ochr yn ochr â'n sefydliadau sector gwirfoddol, wefan newydd lle gall aelodau o'r cyhoedd fynegi eu diddordeb i gael ymgynghoriad gan awdurdodau lleol ar y cynlluniau. Felly, byddwn i’n argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb yn mynd ati i edrych ar wefan Living Streets i gael gwybod mwy a mynegi eu diddordeb o ran rhoi gwybod i'r awdurdod lleol beth yw eu llwybrau, beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth ar eu cyfer nhw, beth sy’n eu hatal rhag beicio neu gerdded i gyrchfan ar hyn o bryd. Felly, mae hynny yn sicr yn rhywbeth y byddwn i’n gofyn i’r Aelodau yma, mewn gwirionedd, eu hybu yn eu hetholaethau nhw hefyd.
Rydym yn sicr yn ceisio cefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau. Rydym yn gwybod ein bod yn gofyn llawer, ond credaf fod modd i ni gael llawer ganddyn nhw hefyd. Felly, cyhoeddwyd ac ymgynghorwyd ar ganllawiau cyflwyno ar sut y dylai awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau dan y Ddeddf teithio llesol, a chredaf fod hyn yn bodloni rhai o'r argymhellion y gwnaethoch chi gyfeirio atynt. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau dylunio sy'n nodi safonau seilwaith ac sy’n darparu offer a chanllawiau ar gyfer cynllunio ac archwilio rhwydwaith gan awdurdodau lleol. Felly, rydym yn sicr am wneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni’r dyletswyddau newydd hyn. Bydd llawer o waith i’w wneud, ond credaf y gallwn gyflawni llawer. Mae hyn mewn gwirionedd yn gyfle cyffrous iawn i Gymru. Rwy'n ymwybodol iawn fod gan y byd i gyd ddiddordeb yn hyn ar lawer ystyr. Rwyf wedi gweld blogiau o America yn trafod yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd heb os i wneud yn siŵr bod hyn yn llwyddo, fel rwy’n gwybod y gall wneud.