Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Mae'r cynllun teithio llesol yn fenter dda o ran ei hamcanion. Gellid cael arbedion hirdymor yng nghyllideb y GIG os yw pobl yng Nghymru yn y bôn yn heini, fel yr haerodd Dai Lloyd, ac, yn ddelfrydol, dylid meithrin gweithgarwch corfforol o oedran cynnar. Credaf ein bod yn cytuno ar yr egwyddorion hyn. Y broblem, fel erioed, yw pa mor dda y gellir cyflawni amcanion y cynllun teithio llesol mewn gwirionedd. Weithiau, bydd datblygiadau bywyd modern yn tueddu i weithio yn erbyn cyflawni hyn yn effeithiol. Er enghraifft, gallwn annog plant ysgol i gerdded i'r ysgol ar ddiwrnod penodol fel rhan o'r cynllun hwn. Ond pan geir ad-drefnu sy'n arwain at gau ysgolion lleol, mae posibilrwydd y byddai’n rhaid i lawer o blant ddefnyddio ceir i deithio i'r ysgol. Byddai cerdded mwy na thair milltir i'r ysgol yn sicr o fod yn rhy bell ac yn cymryd gormod o amser yn rheolaidd. Felly, ni fyddech chi’n debygol o fod yn annog plant i gerdded yn rheolaidd i'r ysgol yn yr achos honno. Mae'r un broblem yn bodoli yn achos gweithwyr y mae eu gweithle yn llawer o filltiroedd i ffwrdd, ac, yn anffodus, y duedd gyda bywyd modern yw bod pobl yn teithio ymhellach ac ymhellach i’w gweithle.
Wrth gwrs, mae eich cynllun hefyd yn cynnwys beicio, a all fod yn fwy hyfyw yn y tymor hir. Er hynny, bydd yn anodd goresgyn y rhwystrau eithaf sylfaenol hyn, ond bydd yn ddiddorol gweld pa gynnydd y gellir ei wneud o ran y cynllun teithio llesol, a byddaf yn ymdrechu i’w fonitro'n ofalus. Diolch.